Zelensky: Bakhmut wedi ei dinistrio ond heb gwympo i Rwsia

Mae'r Arlywydd Zelensky wedi dweud fod dinas ddwyreiniol Bakhmut wedi ei dinistrio ond heb gwympo i Rwsia.
Roedd adroddiadau fod Arlywydd Zelensky wedi awgrymu fod Wcráin wedi colli rheolaeth ar y ddinas i luoedd Rwsia.
Pan ofynnwyd i Mr Zelensky yn yr uwch gynhadledd yng nghyfarfod y G7 yn Hiroshima os oedd gan Wcráin reolaeth dros y ddinas, dywedodd: “Dwi ddim yn credu. Mae’n drueni, mae’n drychineb ond am heddiw, mae Bakhmut yn ein calonnau”, meddai.
Roedd arweinydd y grŵp parafilitaraidd Wagner o Rwsia wedi honni ddydd Sadwrn ei fod ei luoedd wedi cipio’r ddinas. Roedd swyddogion Wcráin wedi gwadu hynny yn wreiddiol.
Fe wnaeth ei swyddogion wneud yn glir yn hwyrach fod Mr Zelensky wedi gwadu bod Bakhmut yn nwylo Rwsia.
Llun: Wochit