Manchester City yn bencampwyr Uwch Gynghrair Lloegr

Mae Manchester City wedi eu coroni yn bencampwyr Uwch Gynghrair bêl-droed Lloegr.
Fe gurodd Nottingham Forest Arsenal 1-0 brynhawn ddydd Sadwrn sy’n golygu fod Manchester City yn bencampwyr.
Mae’r fuddugoliaeth i Forest yn golygu eu bod nhw wedi llwyddo osgoi disgyn i’r Bencampwriaeth gydag un gêm yn weddill o’r tymor.
Fe ddaeth golwr Cymru Wayne Hennessey ymlaen i'r cae dros Forest am funud olaf y gêm yn dilyn anaf i Keylor Navas.
Llun: Twitter/Manchester City