Newyddion S4C

Phillip Schofield yn gadael ei swydd fel cyflwynydd This Morning

20/05/2023
Phillip Schofield

Mae cyflwynydd rhaglen deledu This Morning, Phillip Schofield, yn dweud ei fod wedi cytuno i adael ei swydd ar unwaith.

Mae’r cyflwynydd, sy’n 61 oed, wedi bod yn rhan o’r gyfres ITV ers 2001. Fe gyflwynodd ei raglen olaf ddydd Iau.

Mewn datganiad, dywedodd Schofield ei fod yn camu’n ôl oherwydd mai’r rhaglen oedd “y stori” erbyn hyn, a'i fod yn dymuno “gwneud popeth sydd yn fy ngallu i warchod y rhaglen rydw i’n ei garu”.

Daw hyn yn sgil adroddiadau fod ei berthynas gyda’i gyd-gyflwynydd, Holly Willoughby, wedi dod dan straen.

‘Heriol’

Dywedodd yn y datganiad: “Rydw i wastad wedi bod yn falch i adrodd straeon difyr ar This Morning.

“Ond yn ddiweddar, mae This Morning ei dod yn rhan o’r stori.

“Drwy gydol fy ngyrfa ym myd teledu, gan gynnwys y dyddiau diwethaf heriol, rydw i wedi gwneud fy ngorau i weithio gydag urddas a charedigrwydd.

"Rydw i’n deall fod ITV wedi penderfynu nad yw’r sefyllfa bresennol yn gynaliadwy, ac rydw i eisiau gwneud popeth sydd yn fy ngallu i warchod y rhaglen rydw i’n ei garu.”

Fe wnaeth Mr Schofield gymryd seibiant o’i swydd yn gynharach eleni, wrth i’w frawd, Timothy Schofield, wynebu achos llys am droseddau rhyw, ond roedd wedi dychwelyd ganol mis Ebrill.

Fe wnaeth llys gael Timothy Schofield yn euog o'i droseddau ddechrau mis Ebrill a cafodd ei ddedfrydu i garchar ddoe am 12 mlynedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.