Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio yn Abertawe

Mae Heddlu De Cymru wedi arestio dyn 38 oed ar amheuaeth o lofruddio yn dilyn marwolaeth dyn 48 oed yn Abertawe fore dydd Sadwrn.
Dywedodd y llu bod swyddogion wedi eu galw i eiddo yn ardal y Clâs o’r ddinas ychydig wedi 10:30.
Nid oes unrhyw wybodaeth am y dyn fu farw eto.
Ychwanegodd yr heddlu fod y dyn 38 oed gafodd ei arestio wedi ei gadw yn y ddalfa.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Stuart Prendiville: “Yn amlwg fe fydd y digwyddiad yma yn achosi sioc i gymuned glos y Clâs.
"Hoffwn sicrhau’r gymuned ein bod wedi arestio rhywun yn gynnar a bydd presenoldeb heddlu yn dal i fod yn yr ardal wrth i ni barhau gyda’n hymholiadau.”
Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu, gan ddefnyddio cyfeirnod 2300163576.