Newyddion S4C

Tri chwaraewr blaenllaw yn gadael CPD Abertawe

20/05/2023
Manning, Latibeaudiere a Naughton

Mae CPD Abertawe wedi cyhoeddi y bydd tri o’u chwaraewyr blaenllaw yn gadael y clwb yn ystod yr haf.

Dywedodd y clwb fod Ryan Manning, Joel Latibeaudiere a Kyle Naughton yn gadael pan fydd eu cytundebau yn dod i ben yr haf yma.

Mae Manning wedi gwneud 109 o ymddangosiadau i’r Elyrch ers ymuno o QPR yn Hydref 2020.

Mae wedi sgorio saith gôl, gyda phump yn ystod tymor 2022-23 pan gafodd ei enwi yn Chwaraewr y Flwyddyn gan y cefnogwyr.

Fe ymunodd Latibeaudiere â’r clwb yn Hydref 2020 o Manchester City. Mae’r amddiffynnwr wedi sgorio tair gôl mewn 79 gêm dros y clwb.

Mae Naughton wedi bod gyda’r Elyrch ers Ionawr 2015 ar ôl ymuno o Tottenham Hotspur.

Roedd yn rhan o’r tîm a orffennodd yn yr wythfed safle yn yr Uwch Gynghrair y tymor hynny gan chwarae mewn 285 o gemau a sgorio chwe gôl yn ystod ei amser gydag Abertawe.

Fe fydd y golwr Andreas Sondergaard hefyd yn gadael ar ddiwedd y tymor ar ôl iddo ymuno yn Chwefror eleni.

Mae adroddiadau yn y wasg yn dweud y bydd y rheolwr Russell Martin hefyd yn gadael y clwb gyda darogan y bydd yn symud i Southampton, ond nid oes cadarnhad o hynny eto.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.