Dan Biggar: Colli Alun Wyn a Tipuric yn ‘ergyd anferth’ i Gymru
Dan Biggar: Colli Alun Wyn a Tipuric yn ‘ergyd anferth’ i Gymru

Mae colli Alun Wyn Jones a Justin Tipuric yn "ergyd anferth" i dîm rygbi Cymru yn ôl y maswr Dan Biggar.
Fe gyhoeddodd y cyn-gapten Jones, 37 oed, a’r blaenasgellwr Tipuric, 33 oed, ddydd Gwener eu bod nhw’n ymddeol o rygbi rhyngwladol ar unwaith.
Cafodd y ddau eu henwi yng ngharfan hyfforddi Warren Gatland ar gyfer Cwpan y Byd, ond mi fydd y ddau yn ildio'r cyfle i gynrychioli Cymru yn Ffrainc fis Medi yn dilyn eu penderfyniadau.
Roedd Biggar wedi chwarae gyda’r ddau i’r Gweilch cyn iddo symud i Toulon yn ddiweddar.
Dywedodd Biggar: “Nes i siarad gyda Tips ac fe ddywedodd wrthai i fod yn deg achos ‘dwi wedi chwarae gydag ef am sbel.
“O’n i’n methu credu’r peth.
"Gydag Al roedd sibrydion a’r hyn a’r llall.
"Mae’n ergyd anferth i ni, dau chwaraewr hynod o dalentog sydd wedi bod yn weision gwych.”
Dywedodd y sylwebydd rygbi Gareth Charles fod y newyddion am Tipuric yn fwy o syndod nag Alun Wyn Jones.
Dywedodd: "O’dd ddim unrhyw syndod bod Alun Wyn falle wedi ‘whare ei gêm olaf i’r Gweilch.
"O’n i ‘di gweld hynny yn dod y ffordd o’dd e wedi ffarwelio ddiwedd tymor diwethaf.
"Ond Justin Tipuric, o’dd neb wedi rhagweld hyn yn dod.
"Mae e wedi cael ei anafiadau yn ddiweddar ond wedi dod nôl ar ôl hynny a mae’n golled fawr a pen tost i Warren Gatland i golli dau mor brofiadol a dau sydd yn cyfrannu shwt gymaint mor agos â hyn i Gwpan y Byd.”
Llun: Asantiaeth Huw Evans