Cynllun i wella llwybrau beicio a cherdded ym Mangor

Mae cynllun ar droed i wella llwybrau beicio a cherdded ym Mangor.
Fel rhan o gynllun Teithio Llesol, mae Cyngor Gwynedd wedi cynnig tri dyluniad gwahanol i wella isadeiledd y ddinas, gan gynnwys cysylltiadau i Ysbyty Gwynedd, yr orsaf drên, a chanol y ddinas.
Mae’r cynllyn yn rhan o ymdrechion i greu trafnidiaeth "diogel a mwy addas" yn y ddinas, fel rhan o bartneriaeth rhwng y Cyngor a Thrafnidiaeth Cymru, gyda chefnogaeth cwmni gwasanaethau peirianyddol WSP.
Ymhlith y newidiadau sydd wedi eu cynnig mae lonydd seiclo newydd, llwybrau aml-bwpras, llwybrau cerdded gwell, mannau croesi, ffyrdd tawel a chynllun lleihau cyflymdra.
Mi fydd y cyhoedd yn gallu gweld y tri chynllun a mynegi eu barn mewn arolwg ar-lein.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd: “Fel Cyngor, rydym yn awyddus i wneud popeth mor ddiogel a chyfleus a phosib i’r bobl sydd yn cerdded a seiclo i fynd i’r gwaith, siopa, neu ymlacio.
“Rydym yn annog unrhyw un sy’n byw yn y ddinas neu yn ymweld â’r ddinas i gymryd y cyfle i ddweud eu dweud ar y cynlluniau yma ym Mangor.
“Mi fydd y sylwadau yn cael eu defnyddio i ddatblygu’r dyluniadau ymhellach.”
Mi fydd yr ymgynghoriad gyhoeddus yn cau ddydd Sul 4 Mehefin.