
Trafnidiaeth Cymru'n lansio ymchwiliad ar ôl i fenywod adrodd am aflonyddu rhywiol gan staff cynorthwyol

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dweud eu bod yn adolygu eu prosesau ar ôl i dair menyw ifanc honni eu bod wedi cael eu haflonyddu'n rhywiol gan staff cynorthwyol wrth deithio.
Mae'r menywod, sydd o Gwm Rhondda, yn honni eu bod nhw wedi cael eu haflonyddu ar lafar gan staff y maen nhw’n credu sy’n weithwyr asiantaeth, wrth aros am wasanaethau bws y cwmni trafnidiaeth rhwng Pontypridd a Threherbert.
Daeth y gwasanaeth bws i rym ar ôl y cyhoeddiad y bydd y rhan yma o'r rheilffordd ar gau rhwng 30 Ebrill 2023 a dechrau 2024.
Nid yw'n glir os mai'r un aelod o staff sy’n cael ei gyfeirio ato gan y menywod.
Fe wnaeth un fenyw, sy'n 26 oed, ddisgrifio sut ddaeth dyn ati a gwneud iddi deimlo’n "anniogel" a "hynod anghyfforddus".
Dywedodd: "Ar safle bws dros dro Ynyswen, fe wnaeth dyn - oedd yn cyflwyno ei hun fel gweithiwr i Drafnidiaeth Cymru - ofyn os oeddwn i’n aros am fws Trafnidiaeth Cymru. Yna, fe wnaeth ofyn imi a oeddwn i'n gweld unrhyw un yn rhywiol gan barhau gyda chwestiynau am fy mywyd rhywiol.
"Yn dilyn hyn, roedd e’n gwneud sylwadau am fy wyneb a'm corff, ac yna fe wnaeth e ddweud y byddai'n hoffi fy mhriodi a mynd â mi adref gydag e."
Mae’r fenyw yn dweud fod yr aelod o staff wedi “gwylltio" pan wnaeth y bws gyrraedd a gofyn iddi am ei rhif ffôn - sefyllfa y gwnaeth ei ddisgrifio fel un "hynod anghyfforddus".

"’Dwi methu helpu ond meddwl faint yn waeth byddwn i wedi'i deimlo pe bai hyn wedi digwydd pan oeddwn i'n aros am fy mws arferol am 06:00 y bore, pan mae hi dal yn dywyll."
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, dywedodd 58% o fenywod rhwng 16 a 34 oed eu bod nhw’n teimlo'n anniogel iawn neu'n weddol anniogel wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar eu pen eu hunain ar ôl iddi dywyllu.
"Roedd y sefyllfa gyda’r dyn hwnnw wedi gwneud imi ofni dal bws y rheilffordd eto. Dydw i ddim yn teimlo'n ddiogel,” meddai’r fenyw wrth ITV Cymru.
Fe wnaeth y ddwy fenyw arall, sydd yn 22 a 23 oed, hefyd adrodd profiad tebyg am aflonyddu honedig.
Pan ofynnwyd i’r menywod a oedden nhw wedi adrodd am yr honiadau i’r awdurdodau, dywedodd y tair nad oeddynt am wneud hynny.
Dywedodd un o’r menywod: "Pe bawn i'n mynd i'r awdurdodau bob tro mae dyn mewn lleoliad cyhoeddus neu drafnidiaeth gyhoeddus yn fy aflonyddu, byddwn i yng ngorsaf yr heddlu yn wythnosol.”
Dywedodd Debbie Beadle, Prif Swyddog Gweithredol Cymorth i Ferched Caerdydd mewn ymateb i brofiadau’r menywod: "Mae trais yn erbyn menywod a merched yn broblem epidemig sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob un ohonom gymryd camau i ddileu'r broblem yn drylwyr o'n cymdeithas."
Mewn ymateb i’r honiadau, dywedodd Marie Daly, Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant Trafnidiaeth Cymru: "Rydym yn cymryd honiadau fel hyn o ddifrif a hoffem ymddiheurio'n gyntaf i'r menywod wnaeth ddioddef yr ymddygiad annerbyniol yma.
"Does dim lle i'r ymddygiad hwn mewn cymdeithas ac yn enwedig ymhlith y rhai sydd dan gytundeb i wneud gwaith ar ran Trafnidiaeth Cymru. Rydym am i bawb deimlo'n hollol ddiogel wrth ddefnyddio ein gwasanaethau.

"Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gyda nifer o asiantaethau i helpu i ddarparu cymorth ar gyfer ein gwasanaethau bws y rheilffyrdd a byddwn yn sicrhau bod unrhyw faterion o'r math yma yn cael eu hymchwilio'n llawn, a bod y gweithdrefnau disgyblaeth perthnasol yn dilyn.
"Os bydd hyn yn dod yn fater plismona, byddwn yn cefnogi unrhyw ymchwiliad yn llawn.
"Rydym yn dilyn prosesau cadarn wrth weithio gydag asiantaethau dan gytundeb a bydd y rhain nawr yn cael eu hadolygu i sicrhau diogelwch ein cwsmeriaid.
"Mae adrodd am y mathau hyn o ymddygiad yn hynod bwysig, ac felly byddem yn annog unrhyw un sy'n defnyddio ein gwasanaethau i ddefnyddio gwasanaeth neges destun Heddlu Trafnidiaeth Prydain os oes angen cymorth arnyn nhw i adrodd trosedd nad yw'n argyfwng.
"Anfonwch neges destun at '61016' neu ffoniwch 0800 40 50 40."