43 o leoliadau chwaraeon i elwa o fuddsoddiad £1.2m mewn cyfleusterau llawr gwlad

Bydd pobl sy'n chwarae chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn elwa o fuddsoddiad o £1.2m gan Llywodraeth y DU er mwyn gwella cyfleusterau aml-chwaraeon.
Daw'r buddsoddiad mewn cydweithrediad â Chymdeithas Bêl-droed Cymru.
Bydd y buddsoddiad yn ceisio gwella argaeledd a mynediad i gyfleusterau o ansawdd uchel ar gyfer pêl-droed, hoci a chwaraeon llawr gwlad eraill.
Mae 43 o leoliadau wedi cael eu dewis ar gyfer buddsoddiad, gan gynnwys CPD Llanberis yng Ngwynedd, Cae Llan yn Llannefydd a Phlas Arthur yn Llangefni.
Dywed Llywodraeth DU mai eu bwriad hefyd ydy helpu cyn gymaint o bobl â phosib i gymryd rhan mewn chwaraeon ac i gynnig buddiannau ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol.
Mae'r buddsoddiad yn rhan o fuddosddiad £300m Llywodraeth y DU i wella meysydd llawr gwlad aml-chwaraeon ar draws y DU erbyn 2025, gyda mwy na £13m yn cael ei fuddsoddi yng Nghymru.
'Gwella ansawdd'
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru David T.C. Davies fod y llywodraeth yn "gweithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ac eraill er mwyn sicrhau fod y llwyddiant anhygoel diweddar y mae chwaraeon yng Nghymru wedi ei brofi yn parhau am flynyddoedd i ddod."
Dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru Noel Mooney: "Yng Nghymdeithas Bêl-droed Cymru, rydym yn canolbwyntio ar wella ansawdd cyfleusterau pêl-droed llawr gwlad ar hyd a lled Cymru ac i gefnogi clybiau pêl-droed i fod yn fannau cymunedol i ddod â buddiannau cymdeithasol, iechyd ac economaidd i'w hardaloedd."