Newyddion S4C

Dyn o Bowys oedd ar goll yng ngorllewin Affrica 'wedi marw o achosion naturiol'

19/05/2023
coll

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi fod dyn aeth ar goll tra ar ei wyliau yn y Gambia yng ngorllewin Affrica wedi marw o achosion naturiol.

Roedd Michael Costain yn 69 oed ac wedi teithio dramor o’i gartref yn ardal Rhaeadr Gwy, Powys i'r Gambia ar 8 Mawrth.

Roedd i fod i ddychwelyd i'r DU ar 20 Mawrth.

Y gred oedd ei fod wedi aros yn ardal Busumbala yng ngorllewin Gambia am ddau ddiwrnod, cyn gadael gyda'r bwriad o deithio i bentref Abene yn Cassamance yn ne Senegal.

Yn dilyn ymholiadau, dywed yr heddlu eu bod wedi derbyn cadarnhad ei fod wedi marw tra'r oedd ar ei wyliau.

Nid yw ei farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.