Y Ceidwadwyr yn gwrthod ymuno ag awdurdod y Bannau ar ôl hepgor yr enw Saesneg

Mae cynghorwyr y Ceidwadwyr ym Mhowys wedi gwrthod ymuno ag awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi i’r enw Saesneg gael ei hepgor.
Cyhoeddwyd fis diwethaf y bydd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn defnyddio'r enw Cymraeg yn unig o hyn ymlaen.
Daw'r newid wrth i'r Parc droi'n 66 oed - a'r bwriad ydi dathlu a hybu diwylliant a threftadaeth yr ardal.
Ond mae’r Ceidwadwyr wedi gwrthwynebu y newid a penderfynodd eu cynghorydd Iain McIntosh ymddiswyddo o’r awdurdod.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr ar Gyngor Powys na fyddai unrhyw un o’u plaid nhw ym Mhowys yn ymuno â’r awdurdod.
“Ry’n ni’n siomedig iawn gyda penderfyniad Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i ddweud wrth bobol sut i gynnal eu busnesau a’r fideo ofnadwy a gynhyrchwyd rhai wythnosau yn ôl,” meddai.
Roedd y fideo yn cynnwys yr actor Michael Sheen yn esbonio y rhesymeg y tu ôl i hepgor yr enw Saesneg.
“Ar ben hynny dyw balans gwleidyddol yr awdurdod ddim yn gywir ac mae angen datrys hynny’n gyflym,” meddai Aled Davies.
Dywedodd cadeirydd yr awdurdod, y Democrat Rhyddfrydol Cyngh Gareth Ratcliffe, nad oedd yn cytuno â’r feirniadaeth.
“Mae'r parc cenedlaethol yn wleidyddol gytbwys drwy'r awdurdod hwn [Powys] a'r cynghorau eraill sydd wedi'u gosod mewn statud,” meddai.
“Mae’r sylwadau nad yw’n wleidyddol gytbwys yn anghywir.”