Newyddion S4C

Rhieni Kaylea Titford

Llys Apêl yn ystyried a ddylai rhieni Kaylea Titford dreulio cyfnod hirach yn y carchar

NS4C 19/05/2023

Bydd Llys Apêl yn edrych eto ar ddedfrydau mam a thad Kaylea Titford, a fu farw yn ei hystafell wely o ganlyniad i esgelusdod yn 2020.

Cafodd Kaylea ei darganfod mewn amodau "anaddas i unrhyw anifail" yn dilyn ei marwolaeth yn ei hystafell wely yn Y Drenewydd yn Hydref 2020.

Plediodd ei mam, Sarah Lloyd-Jones, 40, yn euog i ddynladdiad o ganlyniad i esgelusdod difrifol y llynedd, tra gwadodd ei thad Alun Titford y cyhuddiad, cyn cael ei ddyfarnu'n euog.

Fe gafodd y mam a'r tad eu dedfrydu i chwech a saith mlynedd a chwe mis yn y carchar ym mis Mawrth.

Ond ddydd Gwener, dywedodd cyfreithwyr sydd yn cynrychioli'r Swyddfa'r Twrnai Cyffredinol bod y dedfrydau yn "rhy drugarog" gan ddadlau y dylen nhw gael eu cynyddu.

Bydd gwrandawiad Llys yr Apêl cyn yr Arglwydd Ustus Popplewell a dau uwch farnwr eraill yn dechrau am 10:00.

Sgrechian

Roedd Kaylea Titford yn pwyso 22 stôn 13 pwys pan gafodd ei darganfod yn farw.

Roedd ei thad wedi dweud wrth y rheithgor mai ei bartner oedd yn bennaf gyfrifol am y gofal dros Kaylea.

Tra oedd ei bartner yn gofalu am Kaylea, roedd hi wedi anfon negeseuon iddo yn dweud: "Dwi mor flinedig. Dwi methu dioddef gweithio a gwneud bob dim... dwi wedi bod yn crio trwy'r dydd. Dwi angen i ti fy helpu fi."

Clywodd Llys y Goron Abertawe yn ystod yr achos bod gan Kaylea cyflwr spina bifida ac yn defnyddio cadair olwyn.

Rhai oriau cyn iddo farw roedd hi'n sgrechian yn ei gwely, roedd ei thad wedi danfon dwy neges destun iddi yn dweud wrthi am stopio sgrechain ond nid oedd wedi mynd i'w gweld hi.

Pan oedd y gwasanaethau brys wedi cyrraedd y tŷ, roedd ystafell wely Kaylea llawn poteli o droeth ac ysgarthion ci yn yr ystafell ymolchi.

'Anwybyddu'

Wrth basio'r ddedfryd ym mis Mawrth, dywedodd Mr Ustus Griffiths fod y ddau wedi "esgeuluso Kaylea'n ddifrifol."

"Roedd (Titford) wedi anwybyddu’r oglau a'r bryntni a'r anrhefn, ac roedd tystiolaeth ei lygaid ei hun a'i drwyn yn dweud nad oedd hi'n derbyn y gofal oedd hi angen," meddai.

"Roedd yn mwynhau gweithio - nid oedd yn hoffi helpu - ac mae'n derbyn ei fod yn rhy ddiog i helpu.

"Yn yr un modd, dwi ddim yn derbyn bod Sarah Lloyd-Jones yn gallu taflu'r bai ar ei gŵr.

"Roedd hi'n ormod iddi ei wneud ar ben ei hun, dwi'n derbyn hynny, ond ei dyletswydd hi oedd gofyn am help a derbyn hynny gan yr asiantau roedd hi wedi anwybyddu neu wrthod ar hyd y blynyddoedd."

Llun: Rhieni Kaylea Titford, Alun Titford a Sarah Lloyd-Jones. Llun gan Jacob King / PA.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.