Targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg 'mewn pergyl' oherwydd prinder athrawon

Mae'r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg mewn perygl oherwydd prinder athrawon, yn ôl adroddiad gan un o bwyllgorau'r Senedd.
Yn ôl y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, ni fydd Llywodraeth Cymru "yn cyrraedd ei tharged" o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 oni bai y bydd yna "gynnydd sylweddol" yn nifer yr athrawon Cymraeg.
Daeth y pwyllgor i'r casgliad bod yna wendidau yn y ffordd y mae awdurdodau lleol yn ehangu addysg Gymraeg ar draws y wlad.
Ychwanegodd y pwyllgor nad oes yna ddigon o addysgu drwy'r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.
Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio cynyddu'r nifer o athrawon Cymraeg drwy gynnig yr opsiwn o wersi am ddim er mwyn datblygu eu sgiliau iaith.
Fe wnaeth y pwyllgor hefyd asesu effeithiolrwydd y rhaglenni hyn, gan gynnwys y Cynllun Sabothol sydd yn annog athrawon presennol i ddysgu neu loywi eu hiaith.
Yn ôl amcangyfrif gan Dyfodol i'r Iaith, mae angen 17,000 o athrawon i gofrestru ar y Cynllun Sabothol os ydy Llywodraeth Cymru am wireddu ei bwriad o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae'r pwyllgor yn argymell bod angen buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod "rhagor o athrawon, cymorthyddion dysgu a darlithwyr yn cofrestru ar y Cynllun Sabothol i wella’u Cymraeg."
'Hanfodol'
Dywedodd Delyth Jewell AS, Cadeirydd y pwyllgor ei bod yn "amlwg bod cael digon o athrawon sy’n gallu siarad Cymraeg yn hanfodol os ydym am fynd i’r afael â’r mater hwn ac mae angen i Lywodraeth Cymru ddangos gwir uchelgais dros y blynyddoedd nesaf".
"Dylid annog mwy o athrawon i ddysgu Cymraeg a dylai’r rhai sy’n gweithio ym maes addysg blynyddoedd cynnar allu manteisio ar yr un cyfleoedd hefyd," meddai.
"Mae Cymru wedi cyrraedd trobwynt a nawr yw’r amser i gyflwyno newidiadau. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i dderbyn ein hargymhellion a’u rhoi ar waith cyn ei bod hi’n rhy hwyr."
Fe wnaeth y pwyllgor hefyd glywed tystiolaeth gan yr Athro Enlli Thomas, o Brifysgol Bangor, a oedd yn dweud fod y gwahanol gefndiroedd o Gymraeg mewn ardaloedd amrywiol dros Gymru yn golygu bod angen 'hyfforddiant arbenigol' i athrawon er mwyn addasu os ydynt yn symud o ysgol lle mae'r Gymraeg yn gryf i ardal lle nad y Gymraeg ydy'r iaith naturiol.
Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth: “Rydym yn cydnabod yr her o geisio cynyddu niferoedd athrawon iaith Gymraeg.
"Rydym wedi cyhoeddi ein Cynllun Gweithlu Cymraeg mewn Addysg, sydd yn amlinellu'r camau uchelgeisiol y byddwn ni'n cymryd gyda'n partneriaid er mwyn datblygu'r gweithlu dros y degawd nesaf.
“Fe fyddwn yn ymateb i adroddiad y pwyllgor maes o law."