Gwyliwch: Gareth Bale yn dathlu'n wyllt wedi iddo gael ei dwll cyntaf mewn un

Mae cyn-gapten Cymru Gareth Bale wedi dathlu'n wyllt ar ôl cael ei dwll cyntaf mewn un ar y cwrs golff.
Roedd ei ffrind Ollie Schindler wedi ffilmio'r foment y gyflawnodd Bale y gamp ar gwrs gorff yn California.
"Mae'n gwneud mwy na jyst bicycle kicks," meddai Ollie cyn i Bale fwrw'r bêl.
Wedi iddo fwrw'r bêl roedd y Cymro yn syllu arni cyn iddi fynd mewn i'r twll, ac fe ddathlodd Bale yn wyllt.
Roedd wedi rhedeg fyny i'r camera a neidio i'r awyr petai wedi sgorio gôl dros Gymru eto.
Gareth Bale, he doesn't just do bicycle kicks! 🤯pic.twitter.com/DxO8z2UT4O
— Sky Sports (@SkySports) May 18, 2023
Llun a fideo: Gareth Bale