Newyddion S4C

Difrod i gae ac eiddo Clwb Pêl-droed Llanrug yn ‘siom’ i’r pentref

18/05/2023
S4C

Mae difrod i gae ac eiddo Clwb Pêl-droed pentref Llanrug yng Ngwynedd yn siom i’r gymuned gyfan, meddai aelod o bwyllgor y clwb.

Cafodd y cae ac eiddo CPD Llanrug United ei ddifrodi'n hwyr nos Fercher.

Mae’r difrod yn cynnwys tyllu a thaflu olew ar y cae chwarae sy’n cael ei adnabod yn lleol fel Cae Eithin Duon.

Mae John Gareth Hughes sy'n rhan o'r pwyllgor wedi bod yn ymwneud hefo’r clwb yn wirfoddol ers dros 30 mlynedd.

“Nath ‘na aelod o’r pwyllgor sy’n byw reit agos i’r cae glywed sŵn tua 23:30 neithiwr, ond erbyn iddo fo fynd yna oedd y fandaliaid wedi mynd,” meddai wrth Newyddion S4C.

“Nath o ddarganfod y difrod adeg yna. Ma’r difrod yn cynnwys torri mewn i un o’r cytiau oedd yn dal olew ac maen nhw wedi tollty’r olew ar hyd y cae.

“Maen nhw wedi tyllu twll rownd y corner flag ar dop y cae, a ma’ nhw wedi tynnu arwyddion o ochr y cae a difrodi’r cwt tê a choffi.

“Mae yna dipyn o ddifrod i fod yn onest.”

Gêm ddarbi

Mae’r clwb i fod i chwarae gêm gartref a gêm olaf y tymor ddydd Sadwrn. Mae hi hefyd yn gêm ddarbi yn erbyn Llanberis sy’n achlysur mawr yn yr ardal.

Ychwanegodd Mr Hughes: “Dwi ddim yn gwybod be ydy maint y difrod sydd wedi ei wneud i’r cae gyda’r olew.

“Da ni ddim isio chwaraewyr sleidio i mewn i olew, da’ ni ddim yn gwybod be allan ni neud ar hyn o bryd.

“Da ni wir yn gobeithio gallwn ni sortio hyn cyn dydd Sadwrn, fel bo' ni ddim yn gorfod gohirio'r gêm, sef gêm olaf y tymor i ni a Llanberis. Gêm bwysig i’r darbi lleol."

Mae’r clwb yn glwb cymunedol sy’n cynnwys sawl tîm plant a dau dîm oedolion, sef yr ail dîm a’r  tîm cyntaf sy’n chwarae yng Nghynghrair Pêl-droed Gorllewin Arfordir Gogledd Cymru.

Image
newyddion
Mae'r tîm cyntaf yn chwarae yng Nghynghrair Pêl-droed Gorllewin Arfordir Gogledd Cymru.

Yn ôl Mr Hughes, dyw’r clwb ddim yn gwybod eto faint fydd y gost o adfer y difrod.

“Er mai pwyllgor bach ydan ni, ma’ geno ni aelodau sy’n gallu trwsio, felly gobeithio neith hynny gadw'r costau i lawr.

“Mae nifer o bobl ifanc y pentref  wedi tyfu fyny efo’r clwb, ac mae’n ganolbwynt i Lanrug, mae o yn siomedig ofnadwy.

“Da ni’n dibynnu ar roddion, grantiau, pres ar y giât a’r cwt tê i gynnal y clwb a ma’ yna gostau aruthrol fatha talu dyfarnwyr gemau adra, costau teithio, insurance i’r chwaraewyr felly ma’ hyn yn boen heb fod isio.

“A da ni wedi cael tymor llwyddiannus, a ma’ hyn yn digwydd mae o yn siom i bawb yn y gymuned a’r chwaraewyr wrth gwrs. Mae o yn ofnadwy i ddeud y gwir."

'Sioc, siom a braw'

Mae'r cynghorydd sir dros ward Llanrug, Beca Brown, wedi ei brawychu ar ôl gweld y difrod.

“Ges i sioc, siom a braw o weld y difrod a’r llanast sydd wedi ei wneud yn Cae Eithin Duon - lle sydd mor bwysig i ni fel pentref. Mae’r ymdeimlad cymunedol yn gryf yn y clwb ac ar y cae, a phlant yn dod efo’u rhieni i wylio’r gemau ac yn cael cicio pêl ar y cae yn ystod hanner amser,” meddai wrth Newyddion S4C.

“Tîm lleol ydy Llanrug a nifer o’r hogia wedi dod i fyny drwy’r timau ieuenctid sydd yn y pentref.

“Dwi methu dallt pwy fasa isho gwneud rhywbeth fel hyn, a pham. Mae’r tîm wedi bod yn gwneud yn ardderchog ac wedi chwarae 14 gêm rŵan heb golli.

“Mae’r hyn sydd wedi digwydd yn dipyn o glec, ond dwi’n gwybod na fydd hynny’n effeithio ar hyder a phenderfyniad y tîm wrth iddynt wynebu eu gêm nesa ddydd Sadwrn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.