Newyddion S4C

'Dim tystiolaeth o dwyll' wedi i 12,000 o gwmnïau o China newid eu cyfeiriadau i fflat yng Nghaerdydd

18/05/2023
Dylan Davies- BBC

Mae HMRC wedi dweud nad ydyn nhw wedi dod o hyd i unrhyw "dystiolaeth o dwyll” mewn achos lle newidiodd 12,000 o gwmnïau o China eu cyfeiriadau i fflat yng Nghaerdydd.

Mae perchennog y fflat, Dylan Davies, wedi derbyn miloedd o filiau treth ar gyfer y cwmnïau ers mis Tachwedd 2021, gan gynnwys llythyrau gan asiantaethau casglu dyledion.

Ond tra bod Jim Harra, ysgrifennydd parhaol HMRC, wedi dweud wrth ASau ddydd Iau ei fod yn ddigwyddiad “rhyfedd”, dywedodd nad oedd “unrhwy fath o dwyll wedi ei gyflawni yn erbyn HMRC o ganlyniad i hyn ac nid yw’n glir a oedd yna ymgais i'n twyllo”.

Wrth ymddangos gerbron y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, dywedodd Mr Harra: “Pe bai hwn yn ymgais i dwyllo, byddai’n anarferol iawn i dwyllwyr ddefnyddio cyfeiriad sydd ddim dan eu rheolaeth".

Fodd bynnag, fe wnaeth gyfaddef y gallai wedi bod yn ymgais “ansoffistigedig” i dwyllo na weithiodd.

'Dirgelwch'

Mae’r busnesau sydd wedi’u cofrestru i fflat Mr Davies yn fusnesau tramor sy’n gwerthu i fewn i’r DU trwy farchnadoedd ar-lein fel Amazon neu eBay.

Mae newid yn y gyfraith yn 2021 yn golygu mai’r farchnad ar-lein sy’n gyfrifol am dalu Treth ar Werth (TAW) i fusnesau tramor, a dywedodd Mr Harra wrth ASau fod yr holl daliadau TAW yn ymwneud â’r busnesau wedi cael eu cyfrif.

Daeth achos Mr Davies i'r amlwg ar ôl iddo gwyno i raglen BBC Wales X-Ray ar ôl derbyn llythyrau wedi'u cyfeirio at 11,000 o fusnesau. Mae'r nifer hwnnw wedi codi i 12,000 ers hynny.

Pan ofynodd yr AS Ben Lake i Mr Harra pam y byddai cymaint o fusnesau’n dewis cofrestru mewn cyfeiriad preswyl, dywedodd Mr Harra: “Mae hynny’n ddirgelwch.

"Rydym yn ymwybodol o gyfeiriad swyddfa â gwasanaeth sy’n gyfeiriad eithaf tebyg i un eich etholwr ond nid yw’r un cyfeiriad ac efallai nid dyna’r esboniad cywir.”

Ers ymchwilio i achos Mr Davies, dywedodd Mr Harra fod HMRC wedi cyflwyno profion newydd i wneud yn siŵr nad oedd nifer fawr o fusnesau yn cofrestru mewn cyfeiriadau preswyl.

Y nod medden nhw oedd cyfyngu ar y risg o “anghyfleustra ac achosi poen meddwl i bobl”.

Llun: Dylan Davies gan y BBC.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.