Newyddion S4C

Be

Gweld Beyoncé yng Nghaerdydd yn 'foment fythgofiadwy’

NS4C 18/05/2023

Mae cefnogwyr Beyoncé wedi dweud bod gweld y gantores yn perfformio yng Nghaerdydd yn “foment syfrdanol a bythgofiadwy”.

Fe aeth miloedd i Stadiwm Principality nos Fercher i weld y seren bop yn perfformio ar ddyddiad cyntaf ei thaith byd yn y DU.

Fe wnaeth Beyoncé ganu ei chaneuon fwyaf poblogaidd gan gynnwys ‘Break My Soul’.

Dywedodd aelodau o'r dorf eu bod “mor lwcus” o fod wedi sicrhau tocynnau ar gyfer y sioe ddydd Mercher.

Dywedodd Nicola Stacey Jones, 54 oed o Risga, Caerffili fod llais Beyoncé “fel sidan”.

“Roedd yr awyrgylch yn drydanol, â’r gerddoriaeth yn dirgrynu o amgylch y stadiwm. Mae Beyoncé yn berffaith,” meddai.

Yn ôl Nicola, roedd pawb ar eu traed pan roedd Beyoncé yn canu.

Dywedodd Sian Blackham, uwch reolwr cyfryngau elusen, fod Beyoncé wedi bod yn chwarae “ym mhob bar” ger y stadiwm cyn y sioe.

“Mae hi'n eicon llwyr. Rwy’n gefnogwr enfawr o Beyoncé ac wedi ei charu ers i’w gyrfa ddechrau gyda Destiny’s Child,” meddai.

Taith ‘The Renaissance’ yw’r daith gyntaf i Beyoncé ers saith mlynedd ac mae disgwyl iddi berfformio mewn lleoliadau eraill yn y DU gan gynnwys Stadiwm Tottenham Hotspur yn Llundain, Murrayfield yng Nghaeredin a'r Stadium of Light yn Sunderland.

Cychwynnodd y daith yn Stockholm, Sweden.

Yn flaenorol, amcangyfrifodd y cylchgrawn busnes Forbes o’r Unol Daleithiau y gallai’r daith greu mwy na £1.6 biliwn i Beyoncé. 

Llun: PA

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.