Newyddion S4C

Difa anifeiliaid 'yn cael effaith andwyol sylweddol' ar iechyd meddwl ffermwyr a milfeddygon

Gwartheg

Mae pwyllgor o aelodau seneddol yn San Steffan wedi lleisio pryderon sylweddol am effaith diffyg trafnidiaeth cyhoeddus a chyswllt digidol ar iechyd meddwl pobl yng nghefn gwlad, yn enwedig ymhlith gweithwyr fferm a milfeddygon.

Dywed y pwyllgor hefyd fod y broses o ddifa anifeiliaid o ganlyniad i heintiau fel TB yn cael effaith andwyol sylweddol ar iechyd meddwl unigolion yn y sector amaeth gan gynnwys milfeddygon.

Mae'r adroddiad gan Bwyllgor trawsbleidiol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn galw am lawer mwy o gynllunio a gweithredu cydgysylltiedig gan Lywodraeth y DU i fynd i’r afael â’r mater.

Er mai canolbwyntio ar Loegr mae'r adroddiad sydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau, fe fydd yn canu cloch gyda'r sector amaethyddol yng Nghymru hefyd.

Dywed yr astudiaeth y gall tlodi mewn ardaloedd gwledig waethygu iechyd meddwl unigolion a bod ffermwyr yn wynebu straen yn arbennig, o ganlyniad i argyfyngau iechyd anifeiliaid, yn ogystal â pholisïau newidiol ac ansicr y llywodraeth a all effeithio ar eu hincwm.

Ychwanegodd yr adroddiad fod milfeddygon, sy'n delio'n rheolaidd â marwolaethau anifeiliaid a phrofion TB, yn cael eu heffeithio'n arbennig gan straen.

Canfu arolwg yn 2018 o aelodau Cymdeithas Filfeddygol Prydain fod 77% o’r rhai a holwyd wedi bod yn pryderu am iechyd meddwl a lles cydweithiwr.

Diffyg data

Mae’r adroddiad yn pwysleisio bod y darlun sydd ar gael o iechyd meddwl gwledig ar draws Lloegr yn anghyflawn, yn rhannol oherwydd bylchau mewn data ac yn rhannol oherwydd tan-adrodd ar draws y llywodraeth am amddifadedd gwledig, sydd â chysylltiad â llesiant meddwl gwael.

Mae adroddiad y Pwyllgor yn dweud y dylid mynd i’r afael â’r diffyg data manwl hwn ar draws yr holl feysydd lle mae’n gwneud argymhellion ar gyfer gweithredu ystyrlon.

Ond, dywed yr adroddiad na all y diffyg data guddio patrwm clir lle nad yw anghenion cymunedau gwledig yn cael eu hadlewyrchu’n llawn yn y cynllunio iechyd meddwl a’r gwasanaethau sydd ar gael.

Dywedodd Syr Robert Goodwill, Cadeirydd Pwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig: “Mae cymunedau gwledig yn wynebu set unigryw o heriau. Yn uchel ar y rhestr mae mynediad cyfyngedig i wasanaethau iechyd meddwl, trafnidiaeth gyhoeddus wael ac argyfyngau nad oes modd eu rhagweld fel clefydau anifeiliaid.

“Mae gan hyn oll effaith anochel ar iechyd meddwl pobl – ac eto prin yw’r gwasanaethau iechyd meddwl y gall pobl mewn ardaloedd gwledig gael mynediad atynt.

“Mae angen i iechyd meddwl gwledig fod yn brif flaenoriaeth i Defra – a dylai’r Adran arwain ar argymhellion yr adroddiad hwn ar gyfer gweithredu llawer mwy cydgysylltiedig ar draws y llywodraeth.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.