Newyddion S4C

Sglefren fôr casgen wedi dychryn cerddwyr yng Ngwynedd

17/05/2023
Sglefren mor

Mae sglefren fôr gafodd ei darganfod ar draeth yng Ngogledd Cymru wedi dychryn rhai trigolion lleol.

Fe ddaeth cerddwyr ar draws y creadur ar draeth Aberdyfi yng Ngwynedd.

Fe wnaeth dyn lleol, Steve Bowers, rannu llun o’r sglefren fôr ar gyfryngau cymdeithasol gan dderbyn ymateb cymysg.

“Dwi’n gohirio!” meddai un ymwelydd oedd yn cynllunio taith i’r ardal o Lundain.

Cafodd tair sglefren fôr eu darganfod gerllaw gydag un ferch yn dweud: “Omg! Mae hyn wedi gwneud i mi beidio eisiau mynd i mewn i’r dŵr yma eto!”

Mae Mr Bowers, yn amcangyfrif bod cloch siâp cromen y creadur yn mesur tua 2 droedfedd ar ei hyd.

Mae'n credu mai Sglefren Gasgen Fawr ydi'r creadur.

“Dwi’n cerdded ar hyd y traeth yn aml a dyma’r un mwyaf dwi erioed wedi gweld. Ces i syndod!”

Mae sglefrod môr yn heidio i arfordiroedd cynnes yn hwyr yn y gwanwyn i fwydo ar blancton. Yn aml, maen nhw’n cael eu golchi ar draethau fis Mai neu Fehefin ar ôl camgyfrif cryfderoedd y llanw a’r tonnau.

Roedd rhai trigolion yn poeni am eu diogelwch. “Wow, mae’n edrych fel y gallai lladd rhywun os bydden nhw’n cael ei bigo,” meddai un ferch.

Dydi pigiadau sglefrod môr ddim fel arfer yn niweidiol i bobl. Maen nhw’n gallu pigo ar ôl iddyn nhw farw ond dydi'r pigiad ddim fel arfer yn boenus.

Mae sglefrod môr yn gyffredin ym Môr yr Iwerydd. Yn ôl Ymddiriedolaeth Natur Cymru Gogledd Cymru, maen nhw fel arfer yn tyfu i ddiamedr o 40cm, tua maint clawr bin sbwriel.

Mewn achosion eithriadol, mewn dyfroedd dyfnion, maen nhw’n gallu cyrraedd hyd at 150cm, sy’n golygu mai nhw yw’r sglefrod môr mwyaf mewn dyfroedd Prydeinig.

Llun: Steve Bowers.

Sglefrod casgen yw hoff fwyd crwbanod lledrgefn, crwban môr mwyaf y byd.

Cafodd y cawr yn Aberdyfi ei olchi i fyny fwy neu lai yn gyfan. Mae’n debyg ei fod wedi'i ysgubo'n ôl allan ar y llanw uchel nesaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.