Newyddion S4C

Galw am fuddsoddi treth twristiaeth yn y cymunedau

Galw am fuddsoddi treth twristiaeth yn y cymunedau

NS4C 17/05/2023

Wrth i Lywodraeth Cymru fwrw ‘mlaen a chynlluniau i godi treth twristiaeth, mae perchennog pentre Portmeirion wedi galw am sicrwydd y bydd y pres yn cael ei ail fuddsoddi yn ôl yn y cymunedau. 

Yn ôl Robin Llywelyn, mae angen edrych tuag at Ewrop i weld sut mae gwledydd yno yn gweithredu polisïau tebyg i wella twristiaeth. 

Daw ei sylwadau wrth i Brifysgol Bangor lansio cwrs newydd fydd yn “hyfforddi arweinwyr y dyfodol” mewn rheoli twristiaeth gynaliadwy. 

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud mai’r bwriad yw cyflwyno deddfwriaeth o fewn tymor y senedd hon fydd “o fudd i gymunedau”. 

Mae’r pentref Eidaleg ger Porthmadog yn denu ryw chwarter miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn gyda’r sector twristiaeth gyfan yng Nghymru yn denu gwariant o dros £6bn. 

Image
Portmeirion

Ond mewn mannau poblogaidd fel Eryri, Bannau Brycheiniog a Phen Llyn mae trafferthion wedi codi gyda gor-dwristiaeth yn arwain at broblemau parcio mewn sawl man. 

Mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn dweud bydd y dreth yn fodd o ail fuddsoddi pres yn ôl i gymunedau. Ond mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud y gallai arwain at lai o bobl yn ymweld a Chymru. 

Mae Robin Llywelyn, sy’n cyflogi 120 o staff ym Mhortmeirion, yn galw am sicrwydd y bydd busnesau a chymunedau yn elwa o'r cynllun. 

Image
Robin Llywelyn

“’Da ni fel cwmni yn bleidiol dros dreth ar dwristiaeth os ydi hynny yn helpu i wneud y diwydiant yn gynaliadwy ac os ydi’r dreth yn cael ei rhannu yn y cymunedau, lle mae’n cal ei hybu, yn lle mewn rhywle sydd a phwll di-waelod”, meddai. 

“Mae Venice yn cyfyngu ar y nifer o bobl ... ‘dwi ddim yn dweud bod ni’n cael yr un nifer a Venice, ond mae na lawer o wledydd sydd eisiau cyfyngu er mwyn mwynhad pawb”. 

Yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru mi fyddai pobl sy'n aros dros nos mewn llety yn talu rhwng 50c a £5 y noson yn ychwanegol, yn dibynnu ar y math o lety. 

“Mae ardollau ymwelwyr yn gyffredin ar draws y byd gyda refeniw yn cael ei ddefnyddio er budd cymunedau, twristiaid a busnesau lleol," meddai llefarydd. 

“Byddai ein cynlluniau’n caniatáu i awdurdodau lleol benderfynu a ydynt am gyflwyno’r ardoll, yn seiliedig ar eu hanghenion”. 

Ond faint o ymwelwyr fydde’n fodlon talu mwy?

Ar ei wyliau o Wolverhamtopn, mae Jeremy Lee yn dweud y byddai’n hapus rhoi mwy. 

Image
Jeremy Lee

“Dwi’n cytuno”. 

“Mae lot o lefydd yn gwneud hyn, gan bod gymaint o dwristiaid- mae mwy a mwy bob blwyddyn”. 

“Gobeithio fydde rhyw £2/£3 ella?”

“Fydde’n dda gwybod fod y pres hefyd yn dod nol i’r gymuned a gweld o ar y newyddion a clywed bod y pres yn cael ei roi i wella petha’n lleol”. 

Wedi pryderon am gor-dwristiaeth yn Eryri, mae Prifysgol Bangor bellach wedi cyhoeddi cwrs newydd mewn Rheolaeth Twristiaeth Gynaliadwy. 

“Mae’n sector bwysig ond falle fod ‘na potensial iddo gyfrannu yn fwy i economi Cymru ac i gyflogadwyedd”, meddai Dr Rhys ap Gwilym o Ysgol Fusnes Brifysgol Bangor.

Image
Dr Rhys ap Gwilym

“Be da ni eisiau gweld ydi diwydiant sy’n gynaliadwy a da ni angen pobl sydd efo sgiliau i gymryd mantais o’r cyfleoedd sydd yna”. 

Yng Ngwynedd mae’r Cyngor eisoes wedi cyflwyno mwy o reolau, ar y cyd efo Parc Cenedlaethol Eryri, sy'n anelu at wella profiad ymwelwyr a rhai sy’n byw yn lleol. 

Mae rhain yn cynnwys teithiau bysus wennol i droed yr Wyddfa a chaniatâd cynllunio i godi meysydd parcio penodol i garafanau sy’n aros dros nos. 

Mae’r Cyngor hefyd yn dweud mai edrych dramor am atebion yw’r ateb i sawl problem. 

“Neges gyson i ni gan ein cymunedau a busnesau ni yw bod nhw angen gweld gwell rheolaeth”, medd Rowland Wyn Evans o Adran Economi Cyngor Gwynedd. 

“Mi naetho ni edrych ar enghreifftiau yn Slovenia, Denmark ac hefyd America... a dysgu ganddyn nhw am y ffordd oedden nhw’n ymgysylltu efo cymunedau a'r hyn oedde nhw’n ei wneud i sicrhau bod perchnogaeth o’r economi ymweld o fewn cymunedau a bod cydweithio”. 

Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n edrych ar amserlen er mwyn cyflwyno’r deddf ond mae disgwyl hynny erbyn diwedd tymor y senedd medd llefarydd.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.