Newyddion S4C

cymru dan 17

Sêr dyfodol pêl-droed Cymru yn colli gêm agoriadol yr Ewros

NS4C 17/05/2023

Colli oedd hanes Cymru yng ngêm agoriadol cystadleuaeth Ewro dan 17.

Dyma'r tro cyntaf i Gymru golli ers 8 gêm.

Eleni oedd y tro cyntaf erioed i’r tîm dan 17 gyrraedd y rowndiau terfynol.

Ar ôl 19 munud wedi mynd fe wnaeth Cymru greu cyfle cynta'r gêm, wrth i beniad Joe Hatch fynd heibio’r postyn.

Cafodd Iwan Morgan gyfle ychydig eiliadau wedyn, ond cafodd ei ergyd ei harbed yn hawdd.

Ddeg munud yn ddiweddarach cafodd Morgan gyfle euraidd arall, ond y tro hwn tarodd ei ergyd y postyn.

Ond Hwngari sgoriodd gyntaf, wrth i Benedict Simon droi heibio amddiffyn Cymru i rwydo heibio Margetson.

Dechreuodd yr ail hanner yn weddol dawel tan 72 o funudau pan sgoriodd Hwngari eto drwy Szilárd Szabó, ac ychwanegu trydydd ddeg munud o'r diwedd.

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.