Y Tywysog Harry a Meghan 'bron mewn damwain drychinebus'

Bu bron i'r Tywysog Harry a’i wraig Meghan gael damwain "drychinebus" wrth gael eu herlid gan aelodau o'r paparazzi, yn ôl llefarydd ar eu rhan.
Honodd y llefarydd i gar y cwpwl gael ei ddilyn gan paparazzi yn Efrog Newydd nos Fawrth wedi iddyn nhw fod mewn seremoni wobrwyo.
Roedd mam Meghan hefyd yn y car ar y pryd, meddai.
Dywedodd y llefarydd: “Fe gafon nhw eu dilyn yn ddi-baid am dros ddwy awr.
"Fe wnaeth hyn bron iawn ag achosi sawl gwrthdrawiad, gan gynnwys gyda gyrwyr eraill, cerddwyr a dau swyddog o Heddlu Efrog Newydd.
“Er bod bod yn ffigwr cyhoeddus yn dod â lefel o ddiddordeb gan y cyhoedd, ni ddylai byth ddod ar draul diogelwch unrhyw un.
“Mae lledaenu’r delweddau hyn, o ystyried y ffyrdd y cawsant eu casglu, yn annog arfer ymwthiol iawn sy’n beryglus i bawb dan sylw.”
Does dim cadarnhad wedi dod gan Heddlu Efrog Newydd am y digwyddiad hyd yma.