Newyddion S4C

Geraint Thomas yn dal i arwain y Giro d'Italia er gwaethaf gwrthdrawiad

17/05/2023
Geraint Thomas Giro

Fe lwyddodd Geraint Thomas i orffen cymal 11 o'r Giro d'Italia er iddo fod yn rhan o wrthdrawiad rhwng chwe beiciwr.

Gorffennodd y Cymro ymhlith y peloton yn y 26ain safle yn y cymal, gan gadw ei afael ar y maglia rosa, sef y crys pinc sy'n cael ei rhoi i arweinydd y ras.

Fore Mercher, fe ddechreuodd cymal 11 ar arfordir gorllewin y wlad, yn nhref Camaoire.

Hwn oedd cymal hiraf y ras, sef 219km mewn pellter, ac ar ffyrdd llithrig iawn

Fe ddechreuodd y cymal yn weddol dawel tan i chwech o'r beicwyr, gan gynnwys Geraint Thomas ei hun, fod yn rhan o wrthdrawiad gyda 69 cilomedr yn weddill o'r cymal.

Thomas oedd y cyntaf i gwympo wrth i'r beicwyr droi rownd cornel ar yr heol lithrig.

Nid oedd wedi ei anafu ac fe aeth yn ôl ar ei feic yn syth, ond roedd un o'i gyd-feicwyr dîm INEOS,  Tao Geoghegan Hart, wedi'i anafu'n ddifrifol.

Nid wnaeth Hart symud o'r llawr yn dilyn y gwrthdrawiad a bu'n rhaid iddo gael ei gludo o'r ras mewn ambiwlans.

Roedd yn drydydd yn y ras pan gafodd ei anafu, a ni fydd yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth bellach.

Mae Thomas yn dal mantais o ddwy eiliad dros Primoz Roglic, sydd yn yr ail safle.

Llun: INEOS Grenadiers

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.