Gohirio Grand Prix Yr Eidal oherwydd llifogydd difrifol
Gohirio Grand Prix Yr Eidal oherwydd llifogydd difrifol

Mae trefnwyr Grand Prix Yr Eidal wedi penderfynu gohirio'r ras o ganlyniad i lifogydd difrifol yng ngogledd y wlad.
Roedd Grand Prix Emilia Romagna i fod i gael ei chynnal ddydd Sul.
Mae pum person wedi marw a dros 5,000 o bobl wedi cael eu symud o'u tai wedi i drefi a dinasoedd gael eu heffeithio.
Mewn datganiad dywedodd F1 eu bod yn meddwl am y bobl sydd wedi dioddef ac yn dweud na fydd yn iawn i gynnal y ras dros y penwythnos.
"Yn dilyn trafodaethau mae'r penderfyniad wedi cael ei wneud i beidio cynnal y Grand Prix yn Imola y penwythnos hwn.
"Ni fyddai'n iawn i osod mwy o bwysau ar yr awdurdodau lleol a gwasanaethau brys yn ystod y cyfnod anodd hwn."
Mae rhagolygon y tywydd yn awgrymu bod mwy o law trwm i'w ddisgwyl yn yr ardal dros y dyddiau nesaf.
Llun: Vigili del Fuoco