Newyddion S4C

Season's Greetings

Casgliad mwya'r byd o waith celf Banksy i gael ei arddangos yn Llundain

NS4C 17/05/2023

Bydd casgliad mwyaf y byd o waith celf yr arlunydd enwog Banksy yn cael ei arddangos yn Llundain. 

Mae Banksy yn adnabyddus am ei gelf stryd, gan gynnwys darn o waith 'Season's Greetings' ar gornel garej ym Mhort Talbot yn 2019.

Bydd y casgliad yn arddangos mwy na 110 o ddarnau'r arlunydd anhysbys o Fryste, ac yn dechrau ar 5 Gorffennaf.

Bydd modd i ymwelwyr weld rhai o'r gweithiau sydd wedi denu sylw rhyngwladol, yn cynnwys Girl With Balloon, Flower Thrower a Rude Copper.

Bydd perthnasau agos i'r arlunydd yn rhannu eu hanesion personol nhw o Banksy yn yr arddangosfa yn Llundain hefyd. 

Bydd tocynnau yn mynd ar werth ar gyfer yr arddangosfa o 10:00 ddydd Mercher. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.