Newyddion S4C

'Tuedd o weld pobl yn eu 50au yn hen': Beti George yn rhyfeddu at agweddau 

Newyddion S4C 17/05/2023

'Tuedd o weld pobl yn eu 50au yn hen': Beti George yn rhyfeddu at agweddau 

Mae'r ddarlledwraig Beti George wedi dweud fod yna 'duedd o weld pobl yn eu 50au yn hen'.

Ar ôl llywio cynhadledd yn y Senedd ddydd Mawrth i drafod agweddau tuag at heneiddio o fewn cymdeithas, dywedodd nad yw'r sefyllfa yn newid. 

"Yr hyn dwi'n rhyfeddu ato ydi ma' 'na duedd i feddwl am bobl hanner cant ac yn eu 50au yn hen felly does dim gobaith 'da nhw pan ma' nhw'n cyrraedd fy oedran i," meddai. 

"A dwi'n meddwl bod hyn falle wedi digwydd, o'dd e'n amlwg iawn yn y cyfnode clo achos ma' rhaid i mi ddweud agwedd y cyfrynge, gwrando ar y newyddion yn y bore a fydden nhw'n sôn am yr effaith ar blant, pobl ifanc. 

"Wrth gwrs, roedd hynny yn wir, yr effaith ar eu hiechyd meddwl nhw ac ati, ond prin iawn odd y sôn am beth oedd yr effaith ar hen bobl. Dwi'n meddwl am y rheiny oedd yn gaeedig yn eu fflatie yn methu mynd mas. O leia' o'dd gen i ardd, ond oedd 'na neb yn meddwl am bobl fel yna."

Mae Beti George yn credu bod gwahaniaethu ar sail oed, yn dal i ddigwydd mewn cymdeithas ac yn y gweithle.

"Yr hyn sy'n bwysig i fi yw nad oes na ddim gwahaniaethu o safbwynt oedran achos pan ddechreues i yn y busnes, o'n i'n parchu y bobl oedd wedi mynd o fy mlaen i. O'n i yn parchu eu profiad nhw a dwi'n meddwl rywfaint, ryw ffordd neu gilydd, bo' hwnna wedi mynd, bod y bobl ifanc yn credu bo' nhw'n gwbo' popeth. 

"Fi'n credu bod angen dod â ni at ein gilydd, dwi wrth fy modd yng nghwmni pobl ifanc."

A dyw Beti George ddim yn credu bod hawliau menywod wedi gwella. 

"O'n i'n rhyfeddu at yr agwedd at fenywod yn enwedig, yn eu 50au, heb sôn am y 60au... oherwydd dwi'n cofio o'n i yng nghanol ffeministiaeth ag o'n i'n meddwl felly bod hyn wedi gorffen.

" Dwi'n credu bod hawliau menywod wedi cael eu herydu yn ddiweddar."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.