Gweithwyr Iechyd y GMB yn pleidleisio dros dderbyn cynnig Llywodraeth Cymru

Mae gweithwyr iechyd yng Nghymru sy'n aelodau o undeb y GMB wedi pleidleiso dros dderbyn cynnig tâl newydd Llywodraeth Cymru.
Roedd 65% o blaid y cynnig, gyda 60% o'r aelodau wedi pleidleisio.
Dywedodd Nathan Holman, prif swyddog yr undeb yng Nghymru: “ Mae aelodau'r GMB wedi pleidleisio dros dderbyn y cynnig, ond rydym yn cydnabod nad yw nifer o'n haelodau yn hapus â'r cytundeb.
“Byddwn yn parhau i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, drwy bwyso am welliannau gyda chodiadau cyflog.
“Wedi blynyddoedd o rewi cyflogau, mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod tâl ein haelodau yn ôl i'r lefelau cywir."
Taliad
5% o gynnydd yw cynnig Llywodraeth Cymru, gyda thaliad untro ychwanegol ar gyfer 2022-23.
Mae gweithwyr iechyd gydag undebau eraill, yn cynnwys UNSAIN wedi derbyn cynnig Llywodraeth Cymru, tra bo aelodau'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi ei wrthod.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn falch bod yr aelodau wedi derbyn ein cynnig cyflog terfynol ac yn ddiolchgar i’r undeb am weithio gyda ni mewn partneriaeth gymdeithasol, gan gydnabod y cyfyngiadau ariannol rydym yn gweithio o fewn a’r penderfyniadau anodd y bu’n rhaid eu gwneud i gyrraedd y cynnig hwn.
“Byddwn yn aros am ganlyniad yr holl bleidleisiau undebau llafur, a sefyllfa derfynol yr undebau ar y cyd drwy’r Pwyllgor Busnes Fforwm Partneriaeth Cymru.”