Denu gwirfoddolwyr i Brifwyl Llŷn ac Eifionydd yn 'torri pob record'

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi fod mwy na 1,350 o sesiynau gwirfoddoli unigol ar gyfer y Brifwyl fis Awst eleni wedi’u llenwi, "gan dorri pob record."
Agorodd y porth gwirfoddoli dros dair wythnos yn ôl.
Un sy’n gwirfoddoli yn rhan o dîm yr Eisteddfod ers dechrau’r daith i Lŷn ac Eifionydd bron i bedair blynedd yn ôl yw Michael Strain, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith: “Rydyn ni wedi gwirioni gyda’r ymateb i’r apêl am wirfoddolwyr i ddod atom i Foduan ym mis Awst, ac yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cynnig dod i helpu ar hyd a lled y Maes, meddai.
“Mae denu gwirfoddolwyr yn rhan hanfodol o genadwri’r Eisteddfod yn flynyddol, ac rydw i mor falch o weld bod cynifer o bobl leol wedi ymuno â’r tîm, gyda nifer fawr ohonyn nhw’n cynnig helpu am y tro cyntaf. "
'Hyder'
Yn ôl Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, mae’r cyfle i wirfoddoli yn y Gymraeg yn rhan bwysig o apêl yr ŵyl " “Mae llwyddiant yr Eisteddfod Genedlaethol yn ddibynnol ar gefnogaeth a chymorth llu o wirfoddolwyr, nid yn unig yn ystod yr wythnos ond drwy gydol y flwyddyn, wrth baratoi ar gyfer y Brifwyl, ac rydyn ni’n ddiolchgar i bawb sy’n rhan o’r tîm.
“Mae’r ffaith fod nifer fawr o siaradwyr Cymraeg newydd yn defnyddio gwirfoddoli yn yr Eisteddfod fel cyfle i gael mwy o hyder i ddefnyddio ein hiaith yn gymunedol yn bwerus iawn, ac rydyn ni’n croesawu’r gwaith mae’r Eisteddfod yn ei wneud yn y maes hwn, yn lleol a chenedlaethol."
Yn ôl yr Eisteddfod Genedlaethol, mae sicrhau gwaddol gwirfoddoli ar ddiwedd yr Eisteddfod hefyd yn rhan bwysig o weledigaeth yr ŵyl, ac mae’r trefnwyr wedi bod yn cydweithio gyda Menter Iaith Gwynedd dros y misoedd diwethaf ar brosiect ‘Tyrd i Helpu’ sy’n annog trigolion Gwynedd i wirfoddoli mewn pob math o weithgareddau Cymraeg ar hyd a lled y sir.