Newyddion S4C

Galwadau i atal cytundebau noddi gyda chwmniau ceir sy'n llygru'r amgylchedd

Ceir

Dylai'r diwydiant chwaraeon roi'r gorau i'w cytundebau nawdd gyda chwmniau sydd yn llygru'r amgylchedd, yn ôl ymgyrchwyr.   

Mae enillydd medal aur yn y Gemau Olympaidd, ym maes canŵio, Etienne Stott ymhlith yr ymgyrchwyr sy'n credu na ddylai cwmniau ceir fel Toyota a BMW gael yr hawl i noddi cystadlaethau chwaraeon. 

Mae'r ymgyrchwyr yn cymharu'r trefniant ag ymgyrchoedd tybaco yn y gorffennol. 

Yn ôl ymchwilwyr, mae cwmniau ceir fel Toyota a BMW yn gwario £3.6 biliwn ar gytundebau nawdd ym myd chwaraeon, er mwyn "gwella eu delwedd ym maes cynaladwyedd, er eu bod nhw'n rhoi pwysau ar lywodraethau i oedi gyda pholisïau amgylcheddol"  

Mae'r adroddiad gan sefydliad y New Weather Institute ac ymgyrch Badvertising a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mercher yn cyfeirio at gytundebau noddi rhwng BMW a Chlwb Pêl-droed Real Madrid, a chyswllt Toyota â ras feicio'r Giro d’Italia.

Yn ôl yr ymchwilwyr, gwerthodd y ddau gwmni fwy na gwerth 12.5 miliwn injan hylosgi ar gyfer ceir yn 2021. Mae hynny yn gyfystyr â rhyddhau 855 miliwn o dunnelli o  C02, yn ôl yr ymgyrchwyr, sef yr hyn sy'n cyfateb i  230 o bwerdai glo yn rhedeg am flwyddyn gyfan. 

Mae Toyota yn parhau i fuddsoddi mewn cerbydau sydd ag injan hylosgi o'r fath, gyda chynlluniau i werthu 110 miliwn ohonyn nhw, medd yr ymchwilwyr. 

Mae'r adroddiad hefyd yn honni fod Toyota a BMW wedi brwydro yn erbyn polisïau amgylcheddol, a rheolau llymach i atal newid hinsawdd, er eu bod yn "hawlio eu bod yn arwain ym maes cynaladwyedd."  

Dywedodd llefarydd ar ran BMW: “Mae cynaladwyedd yn rhan sylfaenol o strategaeth gorfforaethol BMW." 

“ Erbyn 2030, bydd o leiaf 50% o werthiant byd eang BMW yn ymwneud â cherbydau trydan."

Mae Toyota wedi cael cais i ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.