Newyddion S4C

Sabri Lamouchi

Rheolwr Caerdydd Sabri Lamouchi yn gadael yr Adar Gleision

NS4C 16/05/2023

Mae rheolwr CPD Dinas Caerdydd Sabri Lamouchi wedi gadael yr Adar Gleision ar ôl i’r clwb benderfynu peidio ag ymestyn ei gytundeb.

Fe gafodd y Ffrancwr ei benodi’n rheolwr ym mis Ionawr gyda’r clwb yn yr 21ain safle yn y Bencampwriaeth.

Fe wnaeth yr Adar Gleision ennill chwe gêm allan o 18 o dan ei arweiniad, wrth i’r tîm lwyddo i osgoi’r cwymp i Adran Un gan orffen y tymor yn yr 21ain safle.

Ond daeth cadarnhad gan y clwb ddydd Mawrth y bydd cyn reolwr Arfordir Ifori a Nottingham Forest yn gadael ar ddiwedd ei gytundeb presennol.

Mi fydd y clwb nawr yn edrych am eu pedwerydd rheolwr mewn 12 mis, wedi i Steve Morison a Mark Hudson ymddiswyddo yn gynharach yn y tymor.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y clwb:

“Hoffai Clwb Pêl-droed Caerdydd ddiolch i Sabri am ei ymdrechion a’i gyfraniad i’n helpu i sicrhau ein lle yn y Bencampwriaeth ar gyfer y tymor 2023/24 a dymuno’r gorau iddo i’r dyfodol.

“Mae Bwrdd Cyfarwyddwyr Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd eisoes wedi dechrau ar y broses o benodi tîm rheoli newydd.”

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.