
Ansicrwydd i bêl-droedwyr ifanc ar ôl newidiadau dadleuol i’r strwythur academi

Mae cannoedd o bêl-droedwyr ifanc yn wynebu haf ansicr ar ôl i Gymdeithas Bêl-droed Cymru dynnu'r drwydded oddi ar bum academi ac israddio rhai eraill.
Mae'r penderfyniad gan y gymdeithas bêl-droed yn golygu na fydd modd i Ffynnon Taf, Rhisga, Cwmbrân, Llandudno na Derwyddon Cefn gynnig pêl-droed lefel academi i blant rhwng 12 ac 16 oed y flwyddyn nesaf.
Yn ôl y gymdeithas, mae'r broses o adolygu'r drefn academïau wedi bod ar y gweill ers blwyddyn a hanner ac maen nhw wedi ymgynghori gyda'r timau dan sylw.
Maen nhw'n dadlau y byddai’r clybiau wedi methu â sicrhau trwydded am resymau yn ymwneud â diogelu chwaraewyr, safon yr hyfforddiant a chyfleusterau, a lefel y gystadleuaeth, ond maen nhw hefyd yn cydnabod fod yna ormod o academïau pêl-droed yng Nghymru.
Mae rhieni'n dweud eu bod yn siomedig, yn enwedig gan fod plant wedi gorfod rhoi'r gorau i chwarae gyda'u ffrindiau mewn clybiau lleol llynedd er mwyn ymuno gydag academi.
“Ergyd fawr”
Mae cadeirydd Clwb Pêl-droed Ffynnon Taf ger Caerdydd, Lee Bridgeman, wedi ei siomi'n fawr, yn enwedig o ystyried llwyddiant y clwb wrth gynhyrchu chwaraewyr o safon.
"Mae'n ergyd fawr," meddai.
"Mae rhieni a phlant wedi'u siomi gan y penderfyniad hwn.
“Dros y tair blynedd ddiwethaf mae tri deg o'n chwaraewyr wedi ymuno â Chaerdydd, Abertawe neu Gasnewydd.
“Mae gyda ni gyn-chwaraewyr yn chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru ac mae 19 o'n tîm ieuenctid wedi chwarae yng nghynghrair Cymru JD yn rhanbarth y de eleni.
“Oes, mae angen gwelliannau oddi ar y cae. Ond siawns na fyddai cymorth a chyllid i roi’r gwelliannau hynny ar waith yn llawer gwell na thynnu trwydded ac effeithio ar ddau gant o blant."
Mae mab Gethin Davies wedi bod gydag academi Ffynnon Taf ers sawl blwyddyn.
Tra'n cydymdeimlo gydag ymdrechion y gymdeithas bêl-droed i sicrhau safonau, mae’n cytuno y gallen nhw fod wedi rhoi mwy o amser iddyn nhw.
"Maen nhw mo'yn codi safon ym mhob academi sydd i gael yng Nghymru, sydd y peth cywir i'w wneud, ond falle dylen nhw fod wedi trio rhoi bach mwy o gymorth i'r academïau 'ma nawr fel bod timau llwyddiannus fel Taffs yn gallu cario mlaen am flwyddyn arall a trial sorto pethe mas."
“Breuddwydion plant”
Bu'n rhaid i Max Hughes roi'r gorau i chwarae gyda'i dim lleol llynedd er mwyn chwarae gyda Chwmbrân.

A hwythau nawr wedi colli eu trwydded, mae e ymhlith dros 130 o blant fydd yn gorfod dod o hyd i glwb newydd.
Mae ei dad Richard yn anfodlon.
"Mae'n anodd nawr i'r plant fynd nôl i chwarae i dimau lleol," meddai.
"Naill ai dyw'r timau ddim i'w cael rhagor neu maen nhw'n llawn a dyw hynny ddim yn deg ar y plant.
“Dwi'n ofni nawr y gallai pêl-droed Cymru golli cenhedlaeth o chwaraewyr o achos hyn.
“Breuddwydion plant, na beth sydd gyda ni fan hyn, mae llawer yn meddwl bod nhw'n mynd mhlan i chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru neu hyd yn oed yn Lloegr yn y dyfodol ac mae hwnna wedi ei gymryd oddi arnyn nhw."
Dyw Max ddim yn siŵr beth fydd ei hanes y tymor nesaf.
"Bydd hi'n anodd iawn i bobl fynd nôl mewn i academïau, nid dim ond fi a phobl Cwmbrân sy'n edrych am academi newydd.
"Dwi'n ffodus iawn i fyw mor agos i glybiau eraill fel Cambrian a Clydach, Pen-y-bont a llefydd fel hynny.
“Mae gan Risga chwaraewyr da, maen nhw'n bennu yn eitha da yn y tabl bob blwyddyn. Ble maen nhw am fynd? Ydyn nhw really mo'yn mynd i Ben-y-bont sydd awr i ffwrdd?"
Mae academi Rhisga ymhlith y rhai fydd yn apelio yn erbyn y penderfyniad.

Mae hyfforddwr y tîm dan bymtheg, Mark Hayward, yn teimlo y gallai'r gymdeithas bêl-droed fod wedi rhoi fwy o help iddyn nhw.
"Gwirfoddolwyr y'n ni i gyd," meddai.
"’Sneb yn cael eu talu yma. Chi'n gwneud eich swydd naw tan bump neu beth bynnag, ac yna chi'n neud dwy neu dair awr bob nos a hefyd ar benwythnosau.
“Mae'r peth yn ddigalon".
Mae sawl un o’r clybiau wedi datgan eu bwriad i apelio yn erbyn y penderfyniad.
Ymateb Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru nad oeddent am wneud sylw ar achosion unigol, ond eu bod wedi dechrau ar adolygiad o strwythur yr academïau ym mis Rhagfyr 2021, gyda’r clybiau'n rhan o'r broses.
Ym mis Mai'r llynedd, fe gafodd y clybiau wybod beth oedd yn ddisgwyliedig ohonynt cyn cael gwahoddiad ym mis Mehefin i ymgeisio am statws academi.
Ym mis Mawrth eleni ar ôl ymweld â'r clybiau, fe gafodd dros hanner ohonyn nhw wybod y gallen nhw golli eu trwyddedau.
Maen nhw hefyd yn dadlau bod poblogaeth Cymru yn rhy fach i gynnal 25 o academïau ac mai dim ond 50 sydd gan Loegr.
Roedd gan y clybiau tan ddydd Mawrth 16 Mai i apelio.