Teyrnged i dad fu farw mewn gwrthdrawiad ym Metws-Y- Coed

Mae teulu dyn 30 oed fu farw mewn gwrthdrawiad ym Metws y Coed ddydd Sadwrn wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Adam Michael Kenyon o ardal Bae Cinmel mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A470.
Dywedodd ei deulu: “Roedd Adam yn fab i Kevin a Claire, brawd cariadus i dair chwaer, ŵyr cariadus, ewythr ac yn bwysicaf oll, gŵr cariadus i Kayleigh a thad i Tommy.
“Roedd Adam yn ddyn ifanc golygus a oedd â chymaint i edrych ymlaen ato. Roedd yn hynod garedig, hael ac egniol. Roedd bob amser eisiau helpu eraill ac roedd yn hael iawn gyda'i amser - roedd ganddo galon aur.
Roedd bob amser yn rhoi ei deulu’n gyntaf, yn enwedig Tommy oedd yn golygu’r byd iddo.”
'Ffrind gorau'
Ychwanegodd ei wraig Kayleigh: “Byddaf yn gweld eisiau Adam yn fawr, roedd gennym ni gymaint i edrych ymlaen ato sydd yn anffodus wedi cael ei dynnu oddi arnom yn llawer rhy fuan.
“Rydyn ni'n dy garu di a byddaf yn dy golli gymaint, fy ngŵr annwyl a'm ffrind gorau.
“Hoffem ddiolch i’r gwasanaethau brys, ac i’r bobl yn y fan a’r lle a helpodd Adam.
Hefyd, ei ffrind gorau Chris, a oedd wrth ei ochr, fel bob amser yn gwneud popeth o bosibl ac yn aros gydag ef tan y diwedd.
“Cwsg yn dynn Adam – oddi wrth dy deulu cariadus i gyd.”
Mae’r heddlu’n parhau i apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu unrhyw un a oedd yn teithio ar hyd yr A470 yng nghyffiniau Betws-y-Coed toc cyn 13:00 brynhawn ddydd Sadwrn a allai fod â lluniau camera cerbyd i gysylltu â swyddogion.
Mae modd cysylltu drwy'r we-sgwrs fyw ar y wefan, neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod A071083.