Newyddion S4C

Llai o adar oherwydd plaladdwyr a gwrtaith medd astudiaeth

Aderyn y To

Defnydd cynyddol o blaladdwyr a gwrtaith ar diroedd amaethyddol yw'r prif reswm dros y gostyngiad mewn nifer o rywogaethau adar ar hyd a lled Ewrop, yn ôl astudiaeth newydd. 

Drwy fwrw golwg ar ystadegau o 28 gwlad dros gyfnod o 37 mlynedd, mae ymchwilwyr wedi darganfod fod 25% o ostyngiad mewn rhywogaethau cyffredin ar draws y cyfandir, ar gyfartaledd.

Mae adar mewn coedwigoedd wedi gostwng 18% tra bo adar mewn ardaloedd trefol wedi gostwng 28%. 

Mae adar sy'n ffafrio tywydd oer y gogledd wedi gostwng 40%  ac roedd 17% o ostyngiad yn y rhywogaethau sy'n ffafrio cynhesrwydd y de.  

Yn ôl yr astudiaeth sydd wedi ei chyhoeddi yng nghylchgrawn y PNAS, mae arferion ffermio yr oes hon, sy'n cynnwys defnyddio plaladdwyr a gwrtaith wedi arwain at y gostyngiad.  

Adar sy'n bwyta pryfed yn bennaf sydd wedi dioddef gwaethaf, yn ôl y gwaith ymchwil. 

'Syfrdanol'

Dywedodd Richard Gregory, y prif awdur ar ran elusen y RSPB : “Tra bo sawl astudiaeth wedi ceisio darganfod be sydd wedi arwain at y gostyngiad hwn yn y Deyrnas Unedig ac ar hyd a lled Ewrop, dyma'r cyntaf i fwrw golwg  fanwl ar arferion pobol yn yr un gwaith ymchwil, gan ddefnyddio'r data gorau sydd ar gael." 

“Mae'r canlyniadau yn syfrdanol," ychwanegodd. 

Daeth ymchwilwyr i'r casgliad hefyd fod tymheredd uwch yn sgil cynhesu byd eang hefyd yn ffactor.

Yn ôl y RSPB, mae'r astudiaeth yn tanlinellu'r angen am ffermio sy'n gyfeillgar i fyd natur, gan sicrhau bod hynny'n drefn arferol yng nghefn gwlad.  

Mae'r elusen yn cydnabod bod  nifer fawr o ffermwyr eisoes yn gwneud hynny ac yn cynhyrchu bwyd iach tra'n cwrdd â thargedau newid hinsawdd. 

Dywedodd Alice Groom o'r RSPB bod angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig a'r llywodraethau datganoledig sicrhau bod "cynlluniau amaethyddol-amgylcheddol yn gwobrwyo arferion ffermio sy'n garedig i natur." 

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym wedi cyhoeddi Bil Amaethyddiaeth gyntaf o’i fath yng Nghymru sy’n galluogi deddfwriaeth uchelgeisiol a thrawsnewidiol i gefnogi ffermwyr, cynhyrchu bwyd cynaliadwy, ac i warchod a gwella cefn gwlad, diwylliant ac iaith Cymru.

“Bwriad ein Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a ddaw i rym o 2025, yw cefnogi ein ffermwyr i gynhyrchu bwyd cynaliadwy wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur gyda chamau gweithredol fel profi pridd ac asesiadau Rheoli Plâu Integredig i sicrhau bod ffermwyr yn wneud penderfyniadau sydd wedi’i dargedu.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.