Newyddion S4C

kelly pitt.jpg

Arestio dyn 25 oed wedi i gorff menyw gael ei ddarganfod yng Nghasnewydd

NS4C 15/05/2023

Mae dyn 25 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio wedi i gorff menyw 44 oed gael ei ddarganfod yng Nghasnewydd.

Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad yng Nghwrt Sandalwood yng Nghasnewydd am tua 11:30 ddydd Gwener ar ôl i fenyw gael ei darganfod yn anymwybodol. 

Mae Heddlu Gwent bellach wedi cyhoeddi ei henw, sef Kelly Pitt. 

Wrth roi teyrnged iddi, dywedodd ei theulu fod "Kelly yn wyres, merch, chwaer, mam a mam-gu annwyl iawn. 

"Roedd hi'n berson hyfryd y tu mewn ac allan. Roedd hi'n annwyl, yn feddylgar, doniol a byddai'n helpu unrhyw un. 

"Rydym ni wedi ein llorio yn sgil yr hyn sydd wedi digwydd. Bu farw mewn ffordd mor boenus a ni fyddwn fyth yn gallu dod i delerau â hyn.

"Hoffem ddiolch i'r gwasanaethau brys am ymateb mor sydyn ac i'r heddlu am ein cefnogi ni yn ystod y cyfnod anodd yma."

Mae teulu Kelly Pitt yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol. 

Mae'r dyn sydd wedi ei arestio yn y ddalfa, ac mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2300153148.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.