Sunak yn cyhoeddi rhagor o gymorth milwrol i Wcráin wrth i Zelensky ymweld

Mae Rishi Sunak wedi cyhoeddi rhagor o gymorth milwrol ar gyfer Wcráin wrth i'r Arlywydd Volodymyr Zelensky ymweld heddiw.
Bydd dronau ymosod yn helpu i atal ymosodiadau gan Rwsia, meddai Downing Street.
Roedd Rishi Sunak a Zelensky wedi cynnal "trafodaethau sylweddol" yn Chequers yn Sir Buckingham wrth i'r DU "barhau i ddangos ein cefnogaeth" at y wlad.
Mae Mr Zelensky hefyd wedi ymweld â Rhufain, Paris a Berlin.
Dywedodd Rishi Sunak fod Wcráin angen "cefnogaeth barhaus gan y gymuned ryngwladol er mwyn amddiffyn yn erbyn ymosodiadau sydd wedi bod yn realiti dyddiol iddynt am fwy na blwyddyn bellach".
"Fedrwn ni ddim eu gadael nhw lawr," meddai.
"Dyna pam mae'r DU yn parhau i gefnogi Wcráin - o danciau i hyfforddiant, o fwledi i gerbydau arfog. A bydd y neges yma o solidariaeth yn parhau ymhob un o fy nghyfarfodydd i gydag arweinwyr byd yn y dyddiau i ddod."
Daw ymweliad Mr Zelensky cyn y bydd cynhadledd y G7 yn cael ei chynnal yn Hiroshima yn Japan yn ddiweddarach yr wythnos hon.