Cludo pysgotwr i Ysbyty Gwynedd wedi iddo fynd yn sâl yn y môr ger y Rhyl

Cafodd pysgotwr ei gludo i Ysbyty Gwynedd wedi iddo fynd yn sâl mewn cwch oddi ar arfordir y Rhyl dros y penwythnos.
Fe wnaeth capten cwch lleol 'Merlin' gysylltu gyda Gwylwyr y Glannau Rhyl er mwyn rhybuddio fod dyn yn sâl ar ei gwch.
Fe wnaeth y bad achub ofyn am gymorth hofrennydd ac fe wnaeth cwch 'Iceni Valour' sy'n cael ei ddefnyddio er mwyn gweithio ar fferm wynt leol hefyd gyrraedd er mwyn cynnig cymorth.
Cafodd y person ei gludo i'r cwch yma gan fod mwy o le arno i gludo'r person nag oedd ar yr hofrennydd, meddai Gwylwyr y Glannau.
Llun: RNLI Rhyl