Kate Winslet yn galw am weithredu ar ddeunydd niweidiol arlein wrth ennill Bafta

Mae'r actores Kate Winslet wedi galw ar y llywodraeth i wneud deunydd niweidiol ar-lein yn "drosedd" wrth iddi ennill gwobr Bafta ddydd Sul.
Enillodd Winslet y wobr am yr actores orau am ei rôl yn y ffilm I am Ruth sy'n portreadu perthynas mam a phlentyn sy'n dioddef o broblemau iechyd o ganlyniad i gynnwys ar-lein.
Yn y ffilm mae cymeriad Kate Winslet, Ruth, yn pryderu am ei merch Freya sy'n ei chael hi'n anodd delio â phwysau'r cyfryngau cymdeithasol.
Wrth siarad ar ôl ennill, dywedodd yr actores: "I am Ruth wedi cael ei gwneud ar gyfer rhieni a'u plant, ar gyfer teuluoedd sy'n teimlo'n gaeth o ganlyniad i beryglon y byd ar-lein, ar gyfer rhieni sy'n dymuno parhau i allu cyfathrebu â’u plant, ond sydd ddim yn gallu bellach.
"I bobl sy'n gallu gwneud newid, plîs gwnewch y deunydd niweidiol yn drosedd.
"Rydym ni eisiau ein plant yn ôl."
Daw ei sylwadau wrth i Dŷ'r Arglwyddi barhau i graffu ar y Bil Diogelwch Ar-Lein, sydd yn anelu at daclo deunydd niweidiol ac anghyfreithlon ar-lein.