Newyddion S4C

S4C

Disgwyl ail rownd yn etholiad arlywyddol Twrci

NS4C 15/05/2023

Mae disgwyl y bydd ail rownd yn cael ei chynnal yn etholiad arlywyddol Twrci ar ôl un o'r etholiadau agosaf yn y wlad ers degawdau.

Dywedodd Goruchaf Gyngor Etholiadol Twrci ddydd Sul fod gan Mr Erdogan 49.49% o'r bleidlais, tra bod ymgeisydd yr wrthblaid Kemal Kilicdaroglu wedi hawlio 44.79% o'r bleidlais. 

Os na all yr un ohonyn nhw sicrhau 50% o'r bleidlais, bydd ail rownd yn cael ei chynnal ymhen pythefnos. 

Mae'r Arlywydd Erdogan wedi bod wrth y llyw am 20 mlynedd fel arweinydd y blaid AK.

Ond mae’r wynebu beirniadaeth am ei reolaeth lem o’r wlad, a chamreolaeth yn dilyn y daeargryn ym mis Chwefror.

'Croesawu'

Mae chwech o wrthbleidiau Twrci wedi cyfuno i ffurfio cynghrair gyda’r nod o ddisodli Mr Erdogan a’i blaid yn yr etholiadau arlywyddol a seneddol. 

Arweinydd Plaid Weriniaethol y Bobl (CHP), Kemal Kilicdaroglu, sydd yn eu harwain fel ymgeisydd ac sy’n sefyll dros ei blaid ei hun yn erbyn Mr Erdogan. 

Wrth siarad gyda'i gefnogwyr yn Ankara, dywedodd Mr Erdogan ei fod yn hyderus y gallai ennill yn y rownd gyntaf ond y byddai hefyd yn "croesawu" penderfyniad y genedl pe bai ail rownd yn cael ei chynnal ar 28 Mai. 

Fe wnaeth ei wrthwynebydd, Mr Kilicdaroglu, ddiolch i bleidleiswyr, gan nodi'r gefnogaeth ymysg pobl ifanc a merched. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.