Newyddion S4C

Yr Eisteddfod Genedlaethol yn cyhoeddi tro pedol i gynllun trefn cystadlu'r Brifwyl am eleni

Yr Eisteddfod Genedlaethol yn cyhoeddi tro pedol i gynllun trefn cystadlu'r Brifwyl am eleni

NS4C 15/05/2023

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi newid yn eu cynlluniau i drefn y cystadlu am eleni, yn dilyn cwynion gan gorau a chyn-feirniaid dros yr wythnosau diwethaf.

Fis Mawrth fe gyhoeddwyd fod trefn y cystadlu torfol yn newid eleni, gan gynnwys cyfyngu ar nifer y corau a fyddai'n cael ymddangos ar y prif lwyfan i dri.

Ers hynny mae degau o gorau a chyn-feirniaid wedi galw ar swyddogion y Brifwyl i ailystyried.

Dywedodd yr Eisteddfod ar y pryd fod y newidiadau wedi eu gwneud yn dilyn adolygiad annibynnol o gystadlaethau’r Eisteddfod.

Ond mewn tro pedol nos Sul, cyhoeddodd yr Eisteddfod eu bod wedi newid y rhaglen gystadlaethau ddrafft yn dilyn trafodaethau.

'Cymeradwyo rhaglen amgen'

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd: "Yn dilyn trafodaethau pellach gyda’r panelau canolog, y Pwyllgor Diwylliannol a’r Bwrdd Rheoli, ynghyd â chyfarfod gyda chynrychiolwyr y corau heno, mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn cyhoeddi newid i’r rhaglen gystadlaethau ddrafft a gyhoeddwyd ychydig wythnosau’n ôl.

"Mae’r Bwrdd Rheoli wedi cymeradwyo rhaglen amgen yn dilyn cwynion, gyda rowndiau cynderfynol i’r cystadlaethau torfol yn cael eu hepgor am eleni.

"Mae hwn yn ddatrysiad un-tro ar gyfer eleni yn unig, a bydd trefnwyr yn treulio’r misoedd nesaf yn trafod rhaglen Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf gyda’r pwyllgorau, y panelau a phartneriaid, er mwyn sicrhau bod rhaglen 2024 yn cynnig chwarae teg i bawb ar draws pob disgyblaeth, boed yn grŵp torfol neu’n unigolyn."

Nid yn unfrydol

Ychwanegodd yr Eisteddfod nad oedd y penderfyniad i gytuno ar y datrysiad yn unfrydol yn y Pwyllgor Diwylliannol, "a gofynnwyd i hyn gael ei ddatgan wrth gyhoeddi’r datrysiad a’r rhaglen gystadlu newydd.

"Nos Fercher 17 Mai yw’r dyddiad cau ar gyfer cofrestru i gystadlu eleni, ac mae’r trefnwyr a’r cynrychiolwyr corawl yn galw ar gorau ar hyd a lled Cymru i fynd ati i gofrestru er mwyn sicrhau bod gwledd o gystadlu i’w weld a’i glywed yn yr Eisteddfod eleni, a gynhelir ym Moduan o 5-12 Awst.

"Bydd y rhaglen gystadlaethau’n cael ei chyhoeddi cyn diwedd dydd Llun 15 Mai, a bydd yr amseroedd i gyd yn ddibynnol ar niferoedd cystadleuwyr yn dilyn y dyddiad cau."

'Cam gwag'

Mae'r penderfyniad wedi denu ymateb ar draws Cymru gan y rhai sy'n ymddiddori mewn canu corawl.

Mae Geraint James, sydd yn wirfoddolwr ar bwyllgor tair eisteddfod leol yng ngorllewin Cymru, yn honni mai "anniddigrwydd" gan gorau sydd wedi gorfodi’r Eisteddfod i wneud y tro pedol.

Image
Geraint James
Geraint James, sydd yn wirfoddolwr ar bwyllgor sawl eisteddfod leol.

Dywedodd Mr James, o Drefdraeth, Sir Benfro, nad oedd "sawl côr wedi cofrestru i gystadlu eleni" a bod hynny wedi dylanwadu ar y penderfyniad gan yr Eisteddfod Genedlaethol, yn ei farn e . 

“Bydde golwg chwerthinllyd ar yr Eisteddfod a bydde neb yn cystadlu ynddyn nhw,” meddai.

“A’r un peth sydd yn mynd i ddigwydd blwyddyn nesaf ‘to, felly fi’n credu mae eisiau iddyn nhw anghofio am y syniad hwn yn gyfan gwbl.

“Fi’n credu roedd shwt gymaint o anniddigrwydd ymhlith y corau wedi codi, doedd neb yn barod iawn i rhoi eu henwau ymlaen i gystadlu wedyn.

“Dw i’n delio efo lot o’r corau i ddod i’r eisteddfodau yma, a wedi siarad hefo nifer o arweinyddion yn ddiweddar, a’r un yw’r farn taw cam gwag yw’r cynnig yma o gael rhagbrofion i’r corau.

“Mae eisiau iddyn nhw edrych ar y grassroots, y bobl sydd yn cefnogi’r Eisteddfod yn gyffredinol. Fel maen nhw’n cario ‘mlaen nawr, wel bydden nhw’n colli’r elfen hynny.

“Mae’n codi’r cwestiwn, ydyn nhw mo'yn steddfod, neu ydyn nhw just mo'yn gŵyl?

“Mae’n nhw’n becso mwy beth sy’n digwydd yng nghanol nos yn y pafiliwn yn hytrach na beth sy’n tynnu’r torfaoedd mewn yn y dydd."

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol wrth Newyddion S4C nad yden nhw fyth yn cyhoeddi nifer y cystadleuwyr mewn unrhyw gystadleuaeth tan ar ôl y dyddiad cau: "Cafodd y dyddiad cau ei ymestyn cyn y dyddiad cau gwreiddiol er mwyn rhoi rhagor o gyfle i ni drafod gyda chynrychiolwyr y corau. 

"Fe fyddwn ni’n edrych ar niferoedd y cystadleuwyr ym mhob cystadleuaeth ar draws pob disgyblaeth ar ôl y dyddiad cau, fel sy’n digwydd pob blwyddyn," meddai'r llefarydd. 

Wrth ymateb i i dro pedol yr Eisteddfod Genedlaethol ar raglen Newyddion S4C, dywedodd John Eifion Jones, Arweinydd Côr y Brythoniaid ei fod yn croesawu hynny: " Fyswn i'n licio diolch i'r Eisteddfod am y gwaith ma' nhw di rhoi i fewn i adolygu'r drefn gystadlu gyhoeddwyd yn wreiddiol ac am gyflwyno opsiwn amgen am eleni.

"Dw i'n edrych ymlaen at y cyfle i gael cydweithio efo'r Eisteddfod ac i ganfod datrysiad sydd yn mynd i fod yn rhwydd i weithredu a ddim yn sathru traed neb." 

Ond mae Beryl Vaughan, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn yn 2015 o'r farn bod angen cysondeb yng nghystadlaethau'r brifwyl.  

"Mae isio edrych o'r newydd. Mae isio rhoi ryw asbri newydd yn yr holl gystadlu. A dwi'n mynd i ofyn y cwestiwn. Pam? A mi fysa'n ddiddorol gwybod.

"Pam fod y corau'n meddwl neu'n teimlo y dylai nhw gael eu trin yn wahanol i'r holl gystadlaethau torfol eraill? Pam bo nhw'n meddwl bo nhw'n well na pawb? Ac felly mae isio cysondeb dwi yn teimlo." 

Dywedodd y beirniad canu eisteddfodol Terence Lloyd ei fod yn croesawu'r newid gan yr Eisteddfod ar gyfer eleni : Wrth gwrs mae'n bwysig bod corff sy'n defnyddio arian cyhoeddus yn ymateb i'r farn gyhoeddus," meddai. 

"Yn gyffredinol ma' rywun yn pryderu am gyfeiriad yr Eisteddfod a dwi'n gobeithio gweld sicrwydd i gorau ac i gystadleuwyr fydd hyn ddim yn digwydd eto a bod 'na stop ar y newidiadau yma."

 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.