Rhybudd teithio cyn cyngerdd Beyoncé yng Nghaerdydd

Mae teithwyr o gymoedd y de sy’n bwriadu mynd i gyngerdd Beyoncé yng Nghaerdydd ddydd Mercher yn cael eu hannog i adael ddigon o amser ar gyfer eu taith gan fod bysiau yn lle trenau y neu lle i'w cludo yno.
Oherwydd gwaith peirianyddol ar system Metro De Cymru, ni fydd unrhyw drenau i'r gogledd o Bontypridd (Rheilffyrdd Treherbert a Merthyr Tudful) ac Aberpennar (Rheilffordd Aberdâr) drwy dydd Mercher.
Bydd hyn yn effeithio ar deithwyr sy’n mynd i ac o gyngerdd Beyonce yn Stadiwm Principality.
Dywed Trafnidiaeth Cymru y bydd bysiau yn gweithredu ar y llwybrau hyn, gyda newidiadau i wasanaethau rheilffordd ym Mhontypridd ac Aberpennar.
Dywedodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru: “Yn anffodus mae ein gwaith peirianyddol arfaethedig yn gor-redeg wrth i ni gwblhau’r holl wiriadau angenrheidiol i ganiatau i’r seilwaith gael ei ailagor yn ddiogel.
“Rydym yn deall y bydd yr estyniad i fysiau yn lle trenau ar hyn o bryd yn rhwystredig i deithwyr, yn enwedig gyda digwyddiad mawr yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd ddydd Mercher."
Ychwanegodd y llefarydd: “Mae’n bwysig bod cwsmeriaid yn ymgyfarwyddo â’r amserlenni bysiau yn lle trenau er mwyn cyrraedd y digwyddiad a dychwelyd adref yn ddiogel wedyn. Mae gennym hefyd drefniadau derbyn tocynnau ar waith gyda gweithredwyr bysiau a chynghorir cwsmeriaid i ddefnyddio’r rhain lle bo modd.”
Bydd gwaith peirianyddol ar Reilffordd Merthyr Tudful yn parhau tan o leiaf ddydd Iau 18 Mai ac ar Lein Aberdâr (i’r gogledd o Aberpennar) tan ddydd Sul 21 Mai. Mae Rheilffordd Treherbert ar gau ar hyn o bryd tan fis Chwefror 2024 ar gyfer gwaith sylweddol.