Newyddion S4C

plentyn

Rhybudd nad yw plant sy'n dioddef camdriniaeth yn derbyn y cymorth sydd ei angen

NS4C 15/05/2023

Mae plant a phobl ifanc sydd wedi dioddef camdriniaeth ddomestig neu rywiol mewn perygl o beidio â derbyn y cymorth sydd angen arnynt oherwydd bwlch yn y cymorth gan awdurdodau lleol, meddai'r NSPCC.

Dywedodd yr elusennad yw mynediad at wasanaethau cymorth arbenigol ar gyfer y rhai sy'n cael eu heffeithio “i lawer o blant ledled Cymru a Lloegr”.

O’r awdurdodau lleol a ymatebodd i geisiadau rhyddid gwybodaeth yr NSPCC, dywedodd llai na chwarter eu bod yn darparu cymorth penodol i blant a phobl ifanc ar ffurf cynghorydd annibynnol.

Dim ond hanner oedd â chofnodion o nifer y plant yn eu hardal a oedd wedi profi naill ai camdriniaeth domestig, camdriniaeth rhywiol neu'r ddau.

Dywedodd Clare Kelly, pennaeth cyswllt polisi a materion cyhoeddus yr NSPCC: “Mae angen i blant sy’n dioddef camdriniaeth rhywiol neu ddomestig gael mynediad hawdd at wasanaethau cymorth arbenigol a fydd yn rhoi’r cyfle gorau iddynt wella.

“Fodd bynnag, fel y mae ein hymchwil yn ei ddangos, nid yw’r lefel honno o ofal ar gael i lawer o blant ledled Cymru a Lloegr.

“Dylai fod gan awdurdodau lleol ddyletswydd i ddarparu cymorth arbenigol yn y gymuned i ddioddefwyr ifanc. Fodd bynnag, dim ond hanner yr awdurdodau lleol sydd gyda gwybodaeth am nifer y plant sy’n byw yn eu hardal sydd angen cymorth.”

Cyfeiriodd yr elusen at ffigurau o’r ganolfan arbenigedd ar gamdrin plant yn rhywiol (Canolfan CSA), sydd yn amcangyfrif bod tua hanner miliwn o blant yn cael eu camdrin yn rhywiol mewn un blwyddyn yng Nghymru a Lloegr.

'Angen cymorth'

Dywedodd mam i ferch a gafodd ei cham-drin yn rhywiol gan aelod o'r teulu yn saith oed, am ei anhawster i gael cymorth pan oedd ei angen arnynt.

Dywedodd y ddynes, sydd wedi’i henwi fel Erin i amddiffyn hunaniaeth ei merch: “Fe allai ein sefyllfa fod wedi bod yn llai brawychus pe bai yna berson tebyg i gyswllt a allai roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni.

“Mae angen cynnig cymorth integredig a chynhwysfawr i ddioddefwyr i blant a’u teuluoedd ar bob lefel yn y tymor hir i helpu plant i ailadeiladu eu bywydau.”

Mae’r NSPCC wedi galw ar Lywodraeth y DU i ganolbwyntio sylw’r Bil Dioddefwyr a Charcharorion ar sicrhau bod holl ddioddefwyr ifanc cam-driniaeth yn cael cynnig cymorth arbenigol pan fydd ei angen arnynt.

Dywedodd Ms Kelly: “Mae angen i’r Llywodraeth fynd i’r afael ar fyrder â’r diffygion mawr hyn mewn gofal i bobl ifanc agored i niwed.

“Gallant wneud hyn drwy’r Bil Dioddefwyr a Charcharorion ond, yn ei chyflwr presennol, mae gan y ddeddfwriaeth gryn dipyn i’w wneud eto os yw am gyflawni trawsnewid y cymorth sydd ei angen yn fawr ar blant sy’n ddioddefwyr.”

Llun: PA

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.