Mam eisiau i fwy o bobl wybod am gyflwr PDA
![Newyddion S4C](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/2021-03/newyddion-S4C_0.png)
Mam eisiau i fwy o bobl wybod am gyflwr PDA
Mae mam o Sir Gaerfyrddin yn dweud nad ydi addysg gynradd wedi gwneud digon i helpu ei mab. Mae gan Llewelyn Griffith PDA - sy'n rhan o'r sbectrwm Awtistiaeth. Mae ei fam yn dweud bod hyn yn caethiwo'r bachgen sy'n unarddeg mlwydd oed. Rŵan, mae'r teulu eisiau i fwy o bobl wybod am gyflwr PDA, a gwella'r help sydd ar gael i eraill.