Bron i 90% o Eisteddfodau lleol wedi ail-ddechrau ers y pandemig
Bron i 90% o Eisteddfodau lleol wedi ail-ddechrau ers y pandemig

Mae'n galonogol fod nifer o Eisteddfodau lleol Cymru wedi ail-ddechrau ers y pandemig - dyna mae Cymdeithas Eisteddfodau Lleol Cymru wedi ei ddweud. Erbyn hyn mae bron i 90% o Eisteddfodau wedi ail-ddechrau. Ond wrth i gostau byw gynyddu i bawb, maen nhw'n rhybuddio fod costau'n her ychwanegol wrth geisio trefnu. Roedd Eisteddfod yr Hendy yn un o'r rhai sydd wedi ail-ddechrau.