Plaid Cymru yn chwilio am arweinydd newydd
Plaid Cymru yn chwilio am arweinydd newydd

Mae'r dyddiau diwethaf wedi bod yn rhai dramatig i Blaid Cymru - maen nhw'n chwilio am arweinydd newydd ar ôl i Adam Price ymddiswyddo nos Fercher. Daw hyn ar ôl adroddiad am ddiwylliant mewnol y blaid, ac achosion o fwlio ac aflonyddu. Llŷr Gruffydd fydd yn arwain Plaid Cymru tan i arweinydd newydd gael ei ddewis.