Newyddion S4C

AS yn beirniadu proses 'annemocrataidd' Llafur Cymru o ddethol ymgeiswyr seneddol

14/05/2023
Beth Winter AS. Llun gan David Woolfall (CC BY 3.0).

Mae aelod seneddol Llafur o dde Cymru wedi beirniadu proses ei phlaid o ddethol ymgeiswyr ar gyfer etholiadau seneddol, gan ddisgrifio'r broses fel un "annemocrataidd.

Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol ddydd Sul, dywedodd Beth Winter AS, yr aelod Llafur dros Gwm Cynon ers 2019, y byddai'n brwydro dros sedd newydd Merthyr Tudful a Chwm Cynon Uchaf yn yr etholiad seneddol nesaf.

Ond dywedodd fod Pwyllgor Gweithredol Llafur Cymru "wedi cyfyngu ar hawliau aelodau’r blaid" a bod hyn "yn annemocrataidd."

"Ni fydd unrhyw enwebiadau cangen, dim enwebiadau cyswllt, dim hystings personol i fynychu, i gyfarfod ymgeiswyr a phleidleisio ynddynt, a rhaid cwblhau'r broses mewn amser sydd mor fyr."

Ychwanegodd fod hyn yn "sathru ar hawliau aelodau ym Merthyr a Chwm Cynon i gymryd rhan mewn proses gwneud penderfyniadau cynhwysol a chyfunol.

"Mae gennyf bryderon difrifol ynghylch cyfreithlondeb a thegwch y broses hon. Felly, rwyf yn ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael i mi ar hyn o bryd."

Dywedodd hefyd fod proses pleidleisio ar-lein y blaid wedi wynebu beirniadaeth am "ddiffyg tryloywder" mewn mannau eraill, ac roedd hi'n disgwyl i ddarparwr pleidleisio ar-lein annibynnol gael ei ddefnyddio.

Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Lafur Cymru am ymateb.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.