Y gantores Loreen o Sweden yn ennill cystadleuaeth Eurovision am yr eildro

Mae'r gantores Loreen o Sweden wedi ennill cystadleuaeth Eurovision yn Lerpwl eleni.
Dyma'r eildro iddi ennill y gystadleuaeth ar ôl dod yn fuddugol am y tro cyntaf yn 2012.
Roedd ei chân Tattoo yn hynod o boblogaidd gyda'r gwledydd eraill wrth i Sweden ennill 58 pwynt i fod yn fuddugol.
Y Ffindir ddaeth yn ail gyda 526 pwynt, gydag Israel yn cipio'r trydydd safle gyda 362 o bwyntiau.
Loreen - Tattoo! 🇸🇪 The winner of #Eurovision 2023! pic.twitter.com/h74edfVS1h
— Eurovision Song Contest (@Eurovision) May 13, 2023
Methodd Mae Muller o Brydain ailadrodd llwyddiant Sam Ryder y llynedd, gan ddod yn safle 25 yn y gystadleuaeth, un uwchben y gwaelod.
Loreen yw’r fenyw gyntaf i ennill Eurovision ddwywaith. Wrth dderbyn y wobr dywedodd ei bod wrth ei bodd gyda'r fraint.
"Dwi mor ddiolchgar. Rydw i mor ddiolchgar. Doeddwn i ddim yn meddwl y byddai hyn yn digwydd.”
Mae buddugoliaeth Sweden yn golygu y bydd Sweden yn cynnal y gystadleuaeth y flwyddyn nesaf, a hynny ar achlysur dathlu 50 mlynedd ers buddugoliaeth hanesyddol Abba gyda'r gyda'r gân enwog Waterloo yn 1974.
Llun: PA