Newyddion S4C

Notts County

Notts County'n hawlio eu lle gyda Wrecsam yn yr Ail Adran

NS4C 13/05/2023

Bydd Notts County yn chwarae yn yr Ail Adran gyda Wrecsam y tymor nesaf ar ôl ymdrech arwrol yn Wembley ddydd Sadwrn.

Enillodd y Magpies yn erbyn Chesterfield ar giciau o'r smotyn wedi gêm llawn drama yng ngêm derfynol y gemau ail gyfle i gyrraedd Adran Dau.

4-3 oedd y sgôr ar giciau o'r smotyn yn dilyn canlyniad 2-2 wedi 90 munud.

Roedd Notts County wedi bod o fewn trwch blewyn i guro'r bencampwriaeth cyn i Wrecsam sicrhau dyrchafiad awtomatig yn gynharach yn y mis.

Mae perchnogion Wrecsam, Rob McElhenney a Ryan Reynolds, wedi llongyfarch Notts  County ar eu dyrchafiad.

Gorffennodd Notts yn ail yn y gynghrair gyda 107 o bwyntiau, pedwar tu ôl i Wrecsam a 23 o flaen Chesterfield oedd yn drydydd.

Ni ddechreuodd y gêm yn dda i Notts County yn Wembley wrth i Chesterfield sgorio cic o'r smotyn wedi chwe munud yn unig.

Ond yn debyg i'w perfformiad yn y rownd gyn-derfynol yn erbyn Boreham Wood, fe wnaeth y Magpies frwydro yn ôl a sgorio'n hwyr i symud y gêm i amser ychwanegol.

Ond ildio wedi tair munud o amser ychwanegol wnaeth Notts County gyda Armando Dobra yn rhwydo'n gampus i Chesterfield.

Ruben Rodrigues oedd achubwr Notts County yn y munudau olaf o chwarae, gan olygu y byddai'r enillydd yn cael ei ddewis trwy giciau o'r smotyn.

Cledwyn Scott, oedd wedi methu cic o'r smotyn yn erbyn Wrecsam, sgoriodd y gic oedd yn gyfrifol am sicrhau lle Notts County yn yr Ail Adran unwaith eto.

Llun: PA

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.