Newyddion S4C

Unsain

Gweithwyr undeb Unsain yn pleidleisio o blaid derbyn cynnig newydd

NS4C 12/05/2023

Mae gweithwyr undeb Unsain yng Nghymru sy’n gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi pleidleisio o blaid derbyn cynnig newydd ar dâl.

Daw wedi i aelodau yn Lloegr dderbyn cynnig tebyg.

Dywedodd Unsain bod pedwar ym mhob pump o’u haelodau wedi derbyn cynnig Llywodraeth Cymru o godiad cyflog 5% a thaliad unigol rhwng £900 a £1,190 eleni.

Mae undebau iechyd eraill yng Nghymru yn ymgynghori gyda’u haelodau ar y cynnig.

Dywedodd swyddog Unsain, Jess Turner, fod aelodau “eisiau ac yn haeddu mwy ond wedi penderfynu derbyn y cynnig yma a’r sicrwydd y mae’n ei gynnig”.

“Mae gweithwyr y GIG wedi dweud eu bod nhw angen arian yn eu pocedi nhw rŵan er mwyn mynd i’r afael a’r argyfwng costau byw.”

Streicio

Ddydd Mercher dywedodd nyrsys yng Nghymru eu bod nhw’n bwriadu parhau i streicio wedi i undeb y RCN gwrthod cynnig tâl newydd.

Dywedodd Coleg Brenhinol y Nyrsys (RCN) yng Nghymru ddydd Mercher fod ei aelodau wedi gwrthod cynnig "gorau a therfynol" y llywodraeth.

O ganlyniad, fe fydd nyrsys yn streicio ar Mehefin 6 a 7, ac yna Gorffennaf 12 a 13.

Roedd cynnig Llywodraeth Cymru yn cynnwys taliad untro o 3%, wedi'i ôl-ddyddio i'r llynedd, a 5% yn ychwanegol o ddechrau'r mis hwn.

Roedd rhai undebau wedi annog eu haelodau i dderbyn y cynnig, ond doedd yr RCN ddim wedi cynghori aelodau sut i bleidleisio.

Fe wnaeth 47% o'r rheiny a bleidleisiodd dderbyn y cynnig diweddaraf, tra bod 53% wedi gwrthod.

Llun: PA / Jordan Pettitt

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.