Newyddion S4C

Cwest: Merch 15 oed wedi marw ar ôl cael ei tharo gan gar ar groesfan sebra

12/05/2023
keely

Mae cwest i farwolaeth merch 15 oed gafodd ei tharo gan gar yng Nghaerdydd wedi cael ei agor a'i ohirio.

Cafodd Keely Morgan, 15 ei bwrw gan gar wrth gerdded ar groesfan sebra ar Heol Trelái Caerdydd, tua 21:30 ar ddydd Llun Gŵyl y Banc 1 Mai.

Clywodd y cwest ganlyniad archwiliad post mortem a ddywedodd ei bod hi wedi marw yn y fan a’r lle o nifer o anafiadau.

Dywedodd y crwner bod ganddo le i gredu i'r farwolaeth fod yn annaturiol neu'n dreisgar.

Mae dyn 40 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.

Mae ymchwiliadau’r heddlu yn parhau a chafodd y cwest ei agor a’i chau yn y cyfamser. Bydd gwrandawiad pellach mewn pedwar mis.

Teyrnged

Mewn datganiad ar ôl ei marwolaeth, dywedodd ei mam Sian Morgan a'r llysdad Liam Coulthard: “Rydyn ni fel teulu wedi ein dryllio o golli Keely yn sydyn. Mae ein calonnau wedi torri, ac nid oeddem erioed wedi dychmygu y byddai unrhyw beth fel hyn byth yn digwydd i ni.

"Roedd gan Keely bob amser wên mor brydferth a fyddai'n goleuo ystafell. Roedd hi'n gall, yn garedig a doedd gan yr un person erioed air drwg i'w ddweud amdani.

"Mewn cyfnod mor fyr yn y byd hwn, roedd hi wedi cyffwrdd â chymaint o bobl ac roedd ganddi gymaint o gynlluniau sydd bellach wedi'u cymryd i ffwrdd mor greulon."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.