Newyddion S4C

Carcharu dyn am gamdriniaeth rhywiol a ddechreuodd pan oedd plentyn yn wyth

12/05/2023
Mark Thompson

Mae dyn o Aberdâr wedi'i garcharu am gyfnod o 16 mlynedd ar ôl i lys ei gael yn euog o droseddau rhywiol yn erbyn plentyn dros 10 mlynedd yn ôl.

Roedd Mark Thompson wedi dechrau cam-drin y plentyn yn rhywiol pan oedd hwnnw yn wyth mlwydd oed yn unig.

Cadwodd y plentyn y gamdriniaeth yn gyfrinach am ddeng mlynedd cyn cysylltu gyda’r heddlu. Cafodd Mark Thompson ei arestio a’i gyhuddo yn 2021.

Cafodd ei garcharu am 16 mlynedd am dreisio, annog plentyn i gymryd rhan mewn gweithred rywiol ac am ymosodiad rhywiol.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Emma Songhurst, a arweiniodd yr achos yr hoffai “ddiolch i’r dioddefwr a’i deulu am eu dewrder drwy gydol yr ymchwiliad”.

“Mae gan bob plentyn yr hawl i dyfu i fyny yn rhydd rhag ofn a chamdriniaeth.

“Gobeithio bod yr achos yma yn dangos ein hymroddiad a’n penderfyniad i sicrhau cyfiawnder i unrhyw un sydd wedi dioddef fel hyn.

“Byddwn yn annog unrhyw un sydd wedi dioddef trosedd tebyg i roi gwybod i ni, waeth faint o amser sydd wedi mynd heibio.

“Bydd y drosedd yn cael ei hymchwilio’n llawn, a byddant yn cael ein cefnogaeth lawn.”

Gellir riportio ymosodiadau neu gam-drin rhywiol ar 101, neu ar Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.